Ar ddiwedd pob cam byddwch yn gweld un o'r arwyddion hyn lle gallwch sganio cod QR, a fydd yn dangos eich bod wedi cwblhau'r rhan honno o'r daith gerdded.
Bydd eich pasbort digidol yn cael ei stampio'n awtomatig. Efallai y bydd lleoliadau cod QR yn ffenestr amgueddfa, siop, gwesty neu lety gwely a brecwast gerllaw, neu ar hysbysfwrdd eglwys neu bentref.
Mae disgrifiad o'r lleoliadau i gyd yn y disgrifiad llwybr ac maen nhw wedi eu marcio ar fap y daith yma.
Mae 17 stamp i'w casglu i gyd a byddwch angen o leiaf 12 i hawlio eich bathodyn a'ch tystysgrif.
Nid oes signal ffôn symudol ym maes parcio Rhyd-y-benwch (dechrau/diwedd y Llwybr), felly tynnwch lun ohonoch eich hun a'i lanlwytho i hawlio eich stamp ar gyfer y rhan honno o'r daith gerdded.