

Mae cerddwyr yn dod o bob cwr o'r byd i fwynhau'r daith gerdded hir glasurol hon ar lannau afonydd a thros fryniau, sy'n dilyn yr Afon Gwy am 136 o filltiroedd, o weundiroedd garw yr ucheldiroedd ym mynyddoedd Canolbarth Cymru i'r Afon Hafren gerllaw Cas-gwent. Does dim angen pasbort arnoch wrth i chi groesi yn ôl ac ymlaen dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr a chrwydro drwy gaeau eang a pherllannau seidr Swydd Henffordd. Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, gyda'i cheunentydd calchfaen dramatig, ei golygfannau godidog a'i hadfeilion rhamantaidd yn Abaty Tyndyrn, yn cloi'r daith gerdded gyda 50 o filltiroedd ysblennydd, a ddaw i ben yng nghysgod castell canoloesol sy'n sefyll ar glogwyn yng Nghas-gwent.
"Mae Llwybr Dyffryn Gwy'n ymlwybro drwy'r rhan brydferth hon o'r byd yr wyf yn ddigon ffodus i'w galw'n gartref i mi. Peidiwch â brysio'r daith. Mae'r llwybr yn aml yn dringo i ffwrdd oddi wrth yr afon gan roi golwg wahanol i chi o'r tirweddau sy'n agor allan ac sydd yn aml, ac weithiau yn llythrennol, yn tynnu eich anadl. Cofiwch aros bob hyn a hyn i fwynhau gwefr yr ysblander o'ch cwmpas.”
Kate Humble
Darllenwch am brofiad Kate o Lwybr Dyffryn Gwy