

Hidlo'r map
Y disgrifiad gorau o'r rhan hon yw casgliad o elltydd a chymysgedd o dir comin a ffermdir agored, yn serth mewn rhai mannau gyda rhywfaint o gerdded ar lonydd tawel cefn gwlad. Mae'r llwybr allan o Lanfair-ym-Muallt yn mynd o amgylch y castell mwnt a beili Normanaidd ac yna'n dilyn lôn dawel.
Yn ôl ar y llwybr troed mae'r daith yn dringo eto (gan basio Pant-y-Wrach), i ardal eang o dir comin lle mae golygfeydd i'r Mynydd Du a Bannau Brycheiniog. Yng Nghomin Bryn Bach, mae rhagor o olygfeydd gwych draw i'r dyffryn islaw ac i Greigiau Aberedw ar ochr bellaf yr Afon Gwy, cyn i'r llwybr ddisgyn i Bont Erwyd.
Ar Greigiau Aberedw, ar y lan gyferbyn dros yr Afon Gwy, mae Ogof Llywelyn. Yma yn ôl y sôn oedd cuddfan Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd yn y 13eg ganrif. Roedd Llywelyn yn brwydro ag Edward y 1af, Brenin Lloegr, ac yn ôl yr hanes bu'n cuddio yn yr ogof hon. Cafodd Llywelyn ei ddal a'i ddienyddio gan y Saeson a chymerwyd ei ben i Lundain. Yn ôl y sôn, hawliwyd ei gorff gan fynachod lleol o Abaty Cwm hir a chafodd ei gladdu yno, er nad oes tystiolaeth o gladdfa yno heddiw.
Mae'r rhan hon yn pasio drwy ardaloedd niferus o dir comin. Mae 8.4% o Gymru'n dir comin sy'n werthfawr iawn i fywyd gwyllt am nad yw wedi cael ei drin at ddibenion amaethyddol. Ffridd yw'r gair am y rhan lle mae dyffryn yn troi'n fryniau uchel. Mae'r cymysgedd o redyn a phrysgwydd, cynefin sy'n datblygu ar dir comin yn yr uwchdir, yn bwysig i adar fel crec yr eithin, y bras melyn, y llinos, tinwen y garn a'r tingoch. Mae tir comin yn hanfodol i lawer o ffermydd Cymru oherwydd ni allent barhau heb yr hawliau pori sydd ganddynt ar y tiroedd hyn.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort