Caniatâd i'r cwcis

Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd

Gweld Polisi Preifatrwydd
Cau
Rhan 7

O'r Clas-ar-Wy i'r Gelli Gandryll

Rhan 7

O'r Clas-ar-Wy i'r Gelli Gandryll

Mae'r daith yn gadael Y Clas-ar-Wy ar lwybr ger yr afon dan gysgod rhes o goed poplys, yna mae'n dilyn yr ymyl laswelltog gerllaw'r A438 am 875 llath (800 metr). Yn ôl ar y llwybr mae'r daith yn pasio Cilcenni Dingle, sy'n eiddo i Coed Cadw. Wrth ddod allan o goed Comin Bryn yr Hydd, mae'r olygfa tuag at Llowes ac ar draws y llif yn cynnwys y Mynydd Du, Penybegwn a Thwmpa'r Arglwydd Henffordd (neu i ddefnyddio'r enw Saesneg rhyfedd, Lord Hereford's Knob).

Yn fuan ar ôl Eglwys Sant Maelog yn Llowes, mae llwybr arall lle gallwch osgoi cerdded ar hyd ymyl ffordd yr A438. Mae'n gofyn gwneud rhywfaint o ddringo, ond mae werth gwneud yr ymdrech er mwyn mwynhau'r golygfeydd ysblennydd o'r Mynydd Du a Bannau Brycheiniog. Yna mae'r llwybr yn dilyn ymyl yr afon bron drwy'r daith gyfan i mewn i'r Gelli Gandryll, gan gwrdd â Llwybr Clawdd Offa i groesi'r bont i mewn i'r dref.

Proffil uchder y tir

Gwybodaeth am y Daith

Man cychwyn:
Pont Y Clas-ar-Wy
Gorffen:
Y bont dros yr Afon Gwy yn y Gelli Gandryll
Pellter:
4.75 milltir (7.6 km) – llwybr arall (ger Llowes) 5 milltir (8 km)
Amser:
2 awr 20 munud (llwybr arall 2 awr 50 munud)
Esgyniad yr uchder:
155 troedfedd (47 metr) – llwybr arall 581 troedfedd (177 metr)
Map OS:
Explorer OL13 Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, neu Explorer 201 Tref-y-Clawdd a Llanandras ac Explorer 188 Llanfair-ym-Muallt
Bwyd a diod:
Tafarn yn Llowes (mae ei horiau agor yn amrywio).
Cludiant cyhoeddus:
Gwasanaeth bws rhwng Henffordd ac Aberhonddu sy'n stopio yn y Clas-ar-Wy, Cleirwy a'r Gelli Gandryll.
Lle i gael stamp ar eich pasbort:
W. Golesworthy & Sons, 17 Broad Street, Y Gelli Gandryll

Uchafbwyntiau

Eglwys Sant Maelog

Mae cell mynach Cristnogol Celtaidd, mynachlog gynnar neu eglwys wedi sefyll ar y safle hwn am fwy na 1,300 o flynyddoedd. Tu mewn i'r eglwys mae Croes Sant Meilig (roedd Meilig yn fynach Albanaidd a ymgartrefodd yma) a gludwyd i'r eglwys yn y 12fed ganrif, o'r fan lle safai ar Gomin Mynydd Begwn, er mwyn ei chadw'n ddiogel. Byddai'r mathau hyn o groesau'n cael eu defnyddio i nodi ffiniau mynachlogydd, fel cofebion neu i ddynodi mannau ymgasglu.

Ewch i'r wefan
Castell y Gelli Gandryll

Ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae Castell y Gelli Gandryll yn nodwedd amlwg iawn yn nhref farchnad hanesyddol y Gelli Gandryll. Yn dilyn 10 mlynedd o waith adfer, mae'r Castell ar ei newydd wedd yn awr yn ganolfan i'r celfyddydau, llenyddiaeth a dysgu, sy'n cynnig gweithgareddau i blant ac oedolion drwy'r flwyddyn gron. Yn y Gelli Gandryll hefyd y cynhelir Gŵyl y Gelli bob mis Mai ac mae yno siopau llyfrau niferus sydd wedi golygu mai ‘tref lyfrau’ yw enw arall y bobl arni.

Ewch i'r wefan
Arglwyddiaethau'r Gelli

Mae awdurdod gan Gastell y Gelli Gandryll i roi arglwyddiaethau yn nhraddodiad ein ‘Brenin y Gelli’ ni ein hunain, Richard Booth. Cyflwynodd Richard Arglwyddiaethau'r Gelli i ddechrau pan gyhoeddodd bod y Gelli Gandryll yn wladwriaeth annibynnol i geisio dod â chyhoeddusrwydd i'r dref yn 1977. Nid yw'r teitlau'n wir mewn unrhyw ystyr gyfreithiol – ni allwch eu defnyddio ar eich pasbort neu'ch trwydded yrru, ond gallwch eu defnyddio pryd bynnag y dewiswch yn eich bywyd hamdden a bydd eich enw yn archif Arglwyddiaethau'r Gelli!

Ewch i'r wefan

Cynllunio Eich Antur

Passport StampBoots Illustration

Pasbort Llwybr 
Dyffryn Gwy

Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…

Creu pasbort