Hidlo'r map
Dechreuwch gydag ymweliad ag Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yn Byford i weld y murluniau a ddadorchuddiwyd yn 1951. Mae adran fer iawn ar hyd yr A438 ac yna ddarn hir o ffordd weddol ddistaw, sy'n croesi llinell Clawdd Offa. Mae'r llwybr yn dilyn rhan o hen ffordd Rufeinig heibio i safle'r Magna Castra, tref furiog Rufeinig, lle'r oedd cartref y llwyth Dobunni Prydeinig lleol yn ôl yr haneswyr. Yn ôl ar y llwybrau cerdded, croeswch yr A438 eto i gerdded drwy berllannau a chaeau at yr eglwys hyfryd yn Breinton gyda'i phorth mynwent a'i chysylltiadau â Syr Edward Elgar.
Ar ôl yr eglwys mae'r llwybr yn glynu'n dynn at lan yr afon. Ar gyrion Henffordd mae llwybr ar y chwith sy'n arwain i Amgueddfa'r Gweithfeydd Dŵr. Yn fuan wedyn, dringwch y grisiau i'r hen bont reilffordd i groesi'r Afon Gwy, gan barhau o dan y bont ffordd newydd i gyrraedd y bont dros yr Afon Gwy sy'n dyddio'n ôl i'r 15fed ganrif.
Am eich bod wedi cerdded cymaint o filltiroedd yn dilyn yr Afon Gwy sy'n cyflenwi dŵr yfed i nifer o'r cymunedau hynny ar hyd ei glannau, bydd ymweliad ag Amgueddfa'r Gweithfeydd Dŵr (sy'n agored ar ddyddiau Mawrth 11-4) yn dod â hanes dŵr yfed yn fyw i chi, gyda'i detholiad o bympiau a pheiriannau sy'n dal i weithio. Mae llawer ohonynt yn esiamplau o'r rhai olaf o'u math sy'n dal i weithio.
Mae tywydd a phriddoedd perffaith yn cyfuno yn Swydd Henffordd i dyfu'r afalau a'r gellyg gorau a gesglir i gynhyrchu seidr a pherai. Mae Amgueddfa'r Seidr yn Henffordd yn y ffatri wreiddiol lle dechreuodd Bulmers wneud seidr yn 1888. Mae'r amgueddfa'n dangos hanes gwneud seidr drwy'r byd i gyd drwy gadw casgliad eang o felinau seidr, gweisg, poteli, ffotograffau, paentiadau dyfrlliw a memorabilia, yn ogystal â siop boteli lle gallwch flasu'r seidr a'r perai.
O ganlyniad i'r Deddfau Mordwyo ar yr Afon Gwy a basiwyd yn yr 17eg ganrif, crëwyd 100 o filltiroedd o hawliau mordwyo o'r Gelli Gandryll drwy Henffordd i'r Afon Hafren. Roedd glanfeydd yn rhes ar hyd glan yr afon yn Henffordd lle byddai cychod marchnad wythnosol yn gadael i fynd draw i Fryste. Er bod yn rhaid i griwiau o ‘halwyr cychod’ lusgo cychod drwy'r dyfroedd gwyllt i gyrraedd y ddinas, roedd yn well gan bobl ddyfrffordd yr Afon Gwy na'r ffyrdd garw, llawn tyllau oedd yno bryd hynny. Erbyn heddiw, yr Afon Gwy yw un o'r ychydig afonydd yn y DU lle mae'r hawliau traddodiadol hyn i fordwyo'n parhau.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort