Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd
Cynllunio
Er bod Llwybr Dyffryn Gwy'n un o'r teithiau cerdded mwyaf gwledig y gallwch fynd arnynt, mae trefi marchnad defnyddiol o reolaidd i'ch croesawu ar eich ffordd, gan ddarparu lleoedd i chi aros a bwyta a chyfoeth o hanes i'w archwilio. Dyma flas o'r pethau sydd yno i chi eu darganfod.
Mae'r dref gyntaf ar yr Afon Gwy, Rhaeadr Gwy wedi dod yn brifddinas antur awyr agored Cymru mewn blynyddoedd diweddar, am ei bod mor agos at argaeau a chronfeydd dŵr Dyffryn Elan a Dyffryn Claerwen a'r llwybrau cerdded a llwybrau ceffyl niferus sydd yno i'w harchwilio.
Ystyr yr enw Rhaeadr Gwy wrth gwrs yw rhaeadr yr Afon Gwy, ond ychydig iawn sydd ar ôl o'r rhaeadr ei hun oherwydd cafodd ei dinistrio yn 1780 i wneud lle i'r bont groesi'r afon, er mwyn cysylltu'r dref â Dyffryn Elan. Yn yr 1890au, penderfynodd dinas Birmingham 80 o filltiroedd i'r dwyrain, y gallai dŵr diogel glân gael ei symud o Ddyffryn Elan i ddarparu dŵr i'w phoblogaeth oedd yn tyfu'n gyflym. Daethpwyd â miloedd o weithwyr i mewn i'r ardal i adeiladu cronfeydd dŵr ac argaeau ac adeiladwyd pentref newydd i roi lle byw i'r gweithwyr.
Heddiw, mae gan y dref farchnad hon ddetholiad da o siopau annibynnol a masnachwyr lleol ynghyd â digonedd o opsiynau bwyd a diod a llety. Edrychwch i weld beth sy'n digwydd yn The Lost ARC, lleoliad cerddoriaeth fyw caffi ac oriel gerllaw West Street a CARAD, sef amgueddfa a chanolfan gelfyddydau gymunedol Rhaeadr Gwy. Nepell o Raeadr Gwy mae Fferm Gigrin sy'n enwog am ei Chanolfan Fwydo Barcud Coch .
Mae murlun enfawr yn cyfarch ymwelwyr a ddaw i Lanfair-ym-Muallt ac mae hwn yn darlunio diwrnodau terfynol Llywelyn ein Llyw Olaf, Tywysog olaf Cymru, a fu farw gerllaw yn 1282. Anfonwyd ei ben at Frenin Lloegr, Edward I, ac mae caer y brenin hwnnw (wel, gweddillion glaswelltog) yn dal i sefyll y tu ôl i Castle Roal.
Credir bod Buallt yn golygu ‘ych gwyllt (bu) y llethr coediog (allt)’, sy'n cyfeirio at wartheg hynafol White Park oedd yn crwydro'r ardal hon. Mae'r dref yn llawn o gysylltiadau â theirw, gyda delw efydd fawreddog o darw Du Cymreig ym Mharc y Groe a'r tîm rygbi lleol a elwir ‘Y Teirw’. Mae defaid yn llawer pwysicach i'r economi lleol heddiw, ond gallwch weld tarw neu ddau yn Sioe Frenhinol Cymru y'n digwydd bob mis Gorffennaf. Mae sioe amaethyddol fwyaf Ewrop yn gymysgedd bywiog o dda byw, treialon cŵn defaid, cneifio, garddwriaeth, mêl, crefftau, arddangosfeydd a cherddoriaeth. Cynhelir digwyddiadau ar faes y sioe drwy'r flwyddyn yn cynnwys Ffair Ryngwladol Hen Bethau a Chasglwyr.
Yn y 19eg ganrif, diolch i nodweddion iacháu'r ffynhonnau dŵr halwynog a sylffwr lleol, datblygodd Llanfair-ym-Muallt fel cyrchfan sba gyda miloedd o ymwelwyr yn cyrraedd mewn trên i fwynhau'r dyfroedd. Cyn hir, ychwanegwyd ‘Wells’ i'r enw Saesneg ‘Builth’ i hysbysebu'r ffaith y byddai ymweliad yn dod â budd i'r iechyd. Heddiw, mae gorsaf drenau Ffordd Llanfair-ym-Muallt, 2 filltir i'r gogledd orllewin ar linell Calon Cymru, yn gwasanaethu'r dref. Mae siopau annibynnol llwyddiannus yn cynnwys siop hen bethau ‘I am Curious Yellow’ yn Smithfield Road a The Market Builth Wells, sy'n siop groser gydag amrywiaeth wych o gynhyrchion Cymreig sy'n berffaith ar gyfer cael picnic yn y bryniau. Edrychwch i weld beth sy'n digwydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Wyeside, yn yr hen neuadd farchnad, sydd yn awr yn lle adloniant bywiog gyda sinema, theatr ac oriel.
Mae'r Gelli Gandryll, sydd mewn unigryw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn adnabyddus ar draws y byd am ei siopau llyfrau! Gŵyl y Gelli yw'r wledd flynyddol o lenyddiaeth a llyfrau sy'n goresgyn y dref yn hwyr ym mis Mai. Mae hefyd Benwythnos Gŵyl y Gaeaf ar gyfer y rheiny sy'n methu aros 12 mis llawn ar gyfer mwynhau mwy o swyn y llyfr! Mae hen sinema'r Gelli Gandryll sydd yn awr yn cynnwys stoc redegog o tua 200,000 o lyfrau ail law a hynafol ar bob pwnc.
Mewn mannau eraill yn y dref cewch weld tua 20 siop lyfrau arall yn ogystal â nifer gynyddol o orielau celf fel yr Hay Makers ac Eiran Studio Glass. Mae llawer mwy o siopau annibynnol ac anarferol yn gwerthu popeth o ddillad awyr agored yn Golesworthy & Sons i ddodrefn hynafol. Mae mwy na 150 o adeiladau rhestredig yn cadw treftadaeth y dref yn dda, yn cynnwys y Farchnad Ymenyn, a adeiladwyd ar ffurf teml Dorig yn 1833, a Thwr Cloc Oes Fictoria a gwblhawyd yn 1884. Mae'r farchnad (bob dydd Iau rhwng 9am a 2.30pm) wedi bod yn masnachu ers 700 mlynedd yn y Gelli Gandryll gan ddod â chynnyrch tymhorol lleol at ei gilydd, cig wedi magu'n lleol, helgig a physgod ffres, bwyd poeth, crefftau artisan, nwyddau o dras a llawer o werthwyr eraill. Gyda chyfoeth o ddewis o leoedd i fwyta a mannau dan do gwych i bori, y Gelli Gandryll yw'r opsiwn perffaith ar ddiwrnod gwlyb os nad yw'r tywydd yn garedig.
Un funud rydych yn cerdded drwy berllannau a chaeau afalau a'r funud nesaf rydych wedi cyrraedd yr unig ddinas ar yr Afon Gwy, ac mae'n ddinas ddi-straen sy'n olrawn â hanes. Yn Eglwys Gadeiriol Henffordd mae'r map canoloesol mwyaf sydd wedi goroesi o'r byd, y Mappa Mundi 800 mlwydd oed, a llyfrgell gadwynog. Mae'r system ryfeddol hon o'r 17eg ganrif o ddiogelu llyfrau'n dal i feddu ar ei chadwyni, rhodenni a chloeon. Ochr yn ochr ag Amgueddfa'r Tŷ Du a Gwyn ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Henffordd, mae mwy na digon i lenwi diwrnod i'r brenin (neu ddiwrnod glawiog).
Heddiw mae'r ddinas tua 20 milltir oddi wrth ffin Cymru, ond yn y gorffennol pell roedd Henffordd yn rhan o Gymru. Cafodd yr eglwys gadeiriol ei chwalu i'r llawr yn ystod ymosodiad gan y Cymry yn yr 11eg ganrif, a defnyddiwyd Castell Henffordd gan Frenin Lloegr, Harri'r IV, fel ei ganolbwynt i atal gwrthryfel Owain Glyndŵr yn y 13eg ganrif.
Mae cynigion bwyd a diod Henffordd wedi eu seilio ar gynnyrch lleol o gefn gwlad Swydd Henffordd, fel y Beefy Boys arobryn a sefydlwyd gan bedwar cogydd amatur iard gefn sy'n rhannu brwdfrydedd mawr am gynnyrch lleol. Mae afalau a gellyg sydd wedi eu tyfu'n lleol yn cael eu dathlu yn Amgueddfa'r Seidr, sydd i'w chael yn y ffatri wreiddiol lle dechreuodd Bulmers wneud seidr yn 1888.
Ar gyfer siopa, ewch draw i Stryd yr Eglwys, yn agos i'r gadeirlan, sydd â siopau annibynnol hyfryd, orielau celf a stopiau bwyd fel Siop Gaws Mousetrap. Dylai Trekitt allu datrys unrhyw becyn awyr agored neu broblemau cyflenwadau cerdded. Dod o hyd i adloniant celfyddydol a nos yng The Courtyard Arts Centre
Pan ddechreuodd y Parchedig John Egerton ddifyrru ei westeion ar yr Afon Gwy yn Rhosan ar Wy, ni wyddai ar y pryd y byddai'n cychwyn ffasiwn o deithio i lawr drwy Ddyffryn Gwy sy'n parhau hyd heddiw. Roedd mynd ar daith cwch dau ddiwrnod i lawr yr afon o Rosan ar Wy i Gas-gwent, sef Taith yr Afon Gwy, yn beth hynod o ffasiynol i'w wneud ar ddiwedd y 18fed ganrif. Cafodd poblogrwydd y Daith ei helpu'n fawr iawn gan gyhoeddiad teithlyfr hynod lwyddiannus dan y teitl ‘Observations on the River Wye’ gan William Gilpin. Dyma oedd y tywyslyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi ym Mhrydain. Roedd hwn yn fath newydd o deithio oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi'r dirwedd. Dechreuodd beirdd, peintwyr ac awduron oedd yn ceisio'r ‘Pictiwrésg’ ddod i'r ardal i gael eu hysbrydoli gan y dirwedd. Roedd twristiaid yn dilyn amserlen bendant ac yn bwyta mewn lleoedd penodol, gan fynd am dro i olygfannau penodol ac ymweld ag adfeilion rhamantaidd roedd yn rhaid eu gweld, gan olygu mai Taith yr Afon Gwy oedd un o'r gwyliau pecyn cyntaf erioed. Daeth Dyffryn Gwy, gyda'i olygfeydd o afonydd hyfryd, yn dirwedd brydferth gyntaf Prydain i gael ei ‘darganfod’ – a lle geni twristiaeth Brydeinig.
Heddiw, gallwch archwilio'r golygfeydd o amgylch yr afon mewn canŵ, tra bo gan y dref ddetholiad gwych o orielau celf, yn cynnwys Made in Ross yn Nhŷ'r Farchnad, sy'n arddangos gwaith artistiaid a chrefftwyr o'r ardal leol. Cynhelir marchnadoedd yma bob dydd Iau a dydd Sadwrn. Mae hefyd Lwybr Siopa Hen Bethau o amgylch siopau arbenigol annibynnol yn y dref sy'n gwerthu hen bethau, dillad anarferol, nwyddau i'w casglu, gemwaith a dodrefn.
Mae gan Drefynwy, enw sy'n golygu'r Dref ar yr Afon Mynwy, hanes sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd. Yn 2013, darganfuwyd gweddillion cymuned adeiladu cychod oedd yn byw gerllaw llyn sydd wedi diflannu erbyn hyn ac a gafodd eu dyddio'n ôl i'r flwyddyn 4867 CC. Pont Mynwy yw'r unig enghraifft sydd wedi goroesi o bont wedi ei hatgyfnerthu ym Mhrydain a chafodd ei hadeiladu oddeutu'r flwyddyn 1300 pan gafodd amddiffynfeydd y dref eu gwella.
Cyn iddo gael ei goroni, yr enw ar y Brenin Harri'r V, a aned yng Nghastell Trefynwy yn 1386, oedd Harri o Drefynwy. Gyda chefnogaeth saethwyr bwa a saeth Cymreig lleol medrus, dynion y bwâu hirion, enillodd Harri Frwydr Agincourt yn 1415. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, cafodd y castell ei chwalu i raddau mawr gan Cromwell a chafodd Tŷ'r Castell ei adeiladu'n ddiweddarach ar ran o safle'r castell. Mae yn awr yn gartref i amgueddfa a redir gan wirfoddolwyr, sy'n adrodd stori Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy.
Gerllaw mae Neuadd y Sir gain y dref, sy'n deillio o'r oes Sioraidd. Y neuadd hon gynhaliodd achosion llys enwog y Siartwyr yn 1840 a'r tri Siartydd a ddedfrydwyd oedd y dynion olaf ym Mhrydain i gael eu dedfrydu i gael eu crogi, diberfeddu a phedrannu. Diolch i bardwn brenhinol munud olaf gan y Frenhines Fictoria, cafodd y gosb ei newid i alltudiad draw i Dir Van Dieman (Tasmania heddiw).
Gallwch grwydro ar hyd cobls Church Street i ddarganfod siopau annibynnol yn cynnwys crefftwyr aur cyfoes Atelier Gilmar, Creates Fine Art Gallery a'r Theatr Savoy sydd wedi cael ei hadfer yn hyfryd. Cafodd y theatr hon ei thrwydded adloniant yn gyntaf yn 1832 ac mae yn awr yn difyrru'r dref gyda chomedi, cerddoriaeth a ffilm.
Mae'n daith serth i'r Cymin, sef y bryn sy'n edrych allan dros Drefynwy, ond mae'r golygfeydd yn rhyfeddol. Mae hefyd neuadd wledda Sioraidd y ‘Tŷ Crwn’, a Theml y Llynges a adeiladwyd i anrhydeddu Nelson ac arwyr llyngesol eraill.
Mae Cas-gwent yn rheoli mannau croesi pwysig ar yr afon a dyma fan bontio isaf yr Afon Gwy cyn iddi lifo i mewn i'r Afon Hafren ddwy filltir i lawr yr afon. Roedd Cas-gwent yn strategol bwysig i'r Normaniaid a'r castell Normanaidd ar ben clogwyn y dref yw'r castell carreg hynaf i oroesi yng Nghymru. Roedd y Normaniaid yn ei ddefnyddio fel ei sylfaen ar gyfer ehangu eu dylanwad i mewn i Dde Cymru ac i reoli traffig yr afon i fyny'r Afon Gwy i Henffordd. Yn ystod yr oesoedd canol, daeth Cas-gwent yn borthladd mwyaf Cymru, oedd yn adnabyddus am ei fewnforion o win o Ffrainc a Phortiwgal ac am allforio pren a rhisgl.
Erbyn diwedd y 18fed ganrif, roedd Cas-gwent wedi dod yn gyrchnod twristiaeth poblogaidd gydag ymwelwyr yn cymryd Taith yr Afon Gwy i weld adfeilion Abaty Tyndyrn a Chastell Cas-gwent a'r llwybrau cerdded gyda'u golygfeydd dros y tirlun Pictiwrésg’ ar Ystâd Piercefield. Heidiodd artistiaid, awduron a beirdd yno i fynd ar Y Daith ac mae gan Amgueddfa Cas-gwent, sydd ar draws y ffordd i'r castell, gasgliad anhygoel o baentiadau a phrintiau o'r 18fed a'r 19eg ganrif sy'n dangos apêl Dyffryn Gwy.
Mae hen fferi y Servern Princess, oedd yn arfer croesi'r Afon Hafren cyn i'r ddwy Bont Hafren gael eu hadeiladu, yn cael ei hadfer erbyn hyn gan wirfoddolwyr ar lan yr afon.
Os ydych yn ymddiddori mewn rasio, mae Cae Ras Cas-gwent yn cynnal cyfarfodydd drwy'r flwyddyn gron, yn ogystal ag adloniant a chyngherddau gyda'r nos. Mae grŵp ‘Croeso i Gerddwyr’ Cas-gwent yn grŵp prysur, cyfeillgar sy'n trefnu gŵyl gerdded flynyddol bob gwanwyn yn ogystal â rhaglen flynyddol o deithiau cerdded lleol. Os byddwch yn gorffen Llwybr Dyffryn Gwy yng Nghas-gwent byddwch yn gweld amrywiaeth o dafarnau, caffis a bwytai yn ogystal â chysylltiadau cludo da i'ch cymryd ymhellach ar eich taith, gyda choetsys National Express a bysiau a threnau lleol o orsaf Cas-gwent.
Gall y Canolfannau Croeso hyn ar hyd y daith eich helpu chi i ddod o hyd i le i aros, cyngor am gludiant, lle i fwyta ac yfed, beth sydd ymlaen a gwasanaethau lleol.
Canolfan Croeso'r Gelli Gandryll
Chapel Cottage, Oxford Road, Y Gelli Gandryll HR3 5DG
01497 820144
post@hay-on-wye.co.uk
Canolfan Croeso Henffordd
Neuadd y Dref, St Owen's Street, Henffordd HR1 2PJ
01432 383837
tic@herefordcitycouncil.gov.uk
Canolfan Croeso Rhosan ar Wy
‘Made in Ross’, Tŷ'r Farchnad, Rhosan ar Wy
01989 562373
tourism@rosstc-herefordshire.gov.uk
Canolfan Croeso Trefynwy
Neuadd y Sir, Sgwâr Agincourt, Trefynwy, NP25 3DY
01600 775257
enquiries@shirehallmonmouth.org.uk
Canolfan Croeso Cas-gwent
Maes Parcio'r Castell, Bridge Street, Cas-gwent NP16 5EY
01291 623772
chepstow.tic@monmouthshire.gov.uk
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr AHNE Dyffryn Gwy