Hidlo'r map
Mae'r daith hon yn dechrau ym maes parcio Rhyd-y-benwch ac yn pasio drwy Goedwig Hafren, sydd wedi ei henwi ar ôl yr Afon Hafren. Mae'r afon hon yn tarddu o orgors ddofn ar lethrau Pumlumon gerllaw, yn agos at darddle'r Afon Gwy. Peidiwch â chymysgu rhwng yr afonydd – mae'r daith gerdded yn dilyn rhan fechan o'r Afon Hafren gerllaw Rhyd-y-benwch. Ond cyn hir bydd yn cyrraedd yr Afon Gwy, ac yn croesi darn agored o gefn gwlad sydd â golygfeydd eang dros y gweundir at darddiad yr afon honno.
Mae hon yn ardal ffermio defaid mynydd ond mae awgrymiadau yma ac acw yn y dirwedd o orffennol diwydiannol yr ardal. Roedd cloddio am arian a phlwm yn ddiwydiant pwysig yn yr ardal hon yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Heddiw, mae busnes chwaraeon moduro Sweet Lamb yn defnyddio'r ardal hon i brofi ceir rali.
Mae'r llwybr yn parhau dros dir fferm, drwy goedwigoedd ac ar hyd yr Afon Gwy i bentref bychan Llangurig. Cofiwch gael stamp digidol ar eich pasbort yn siop a swyddfa bost Llangurig, lle gallwch hefyd brynu cyflenwadau ar gyfer rhan nesaf y daith gerdded.
Pumlumon yw un o'r ardaloedd o ucheldir pwysicaf ar gyfer cadwraeth natur yng Nghymru, gyda gorgors, gweirdir asidaidd a rhos corlwyni, hebogiaid tramor, barcudiaid cochion, boncathod a chudyllod cochion. Mae'r tir sy'n ymestyn at darddle'r Afon Gwy'n dir Mynediad Agored, sy'n golygu bod caniatâd i'r cyhoedd gerdded drosto, ond am ei fod yn gorslyd ac heb arwyddion i ddangos y ffordd, dim ond cerddwyr profiadol ddylai roi cynnig ar hwn. Gerllaw'r hen fwyngloddiau plwm gallwch weld golygfeydd gwych tuag at y tarddle, heb i chi orfod gadael y llwybr.
Mae hen chwedl Gymreig yn sôn am Dair Chwaer Pumlumon, oedd yn ysbrydion dŵr a ddaeth at ei gilydd ar y llethrau gwyntog i drafod y ffordd orau o gyrraedd y môr. Cymerodd y chwaer gyntaf, Ystwyth, y llwybr mwyaf uniongyrchol i'r gorllewin i blymio i ddyfroedd hallt Bae Ceredigion. Dewisodd yr ail chwaer, Hafren, y llwybr hiraf, gan deithio 180 o filltiroedd i gyrraedd y môr. Roedd y drydedd chwaer, Gwy, yn caru'r dirwedd a dewisodd y llwybr harddaf drwy fryniau porffor a chymoedd euraid i ymuno â'i chwaer, Hafren.
Mae'r gwaith cloddio agored a ddarganfuwyd yn Nant-yr-Eira'n dangos bod pobl yn cloddio am gyfoeth y bryniau hyn yn yr Oes Efydd. Mae nentydd oren llachar sy'n llifo oddi ar Bumlumon, wedi dod drwy haenau sy'n cynnwys copr a gloddiwyd yn Nant-yr-Eira'n fwy diweddar. Yn y 18fed a'r 19eg ganrif, roedd cloddio am arian a phlwm yn ddiwydiannau pwysig yn y dyffryn hwn. Y gloddfa olaf i gau oedd Nant Iago yn 1917. Gallwch weld gweddillion y gwaith hwn yn y tomenni sbwriel, peiriannau a thramffyrdd gerllaw'r llwybr.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort