Pan fydd rhywun yn ymweld â http://www.wyevalleywalk.org rydym yn casglu gwybodaeth gofnodi safonol y rhyngrwyd a manylion am batrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod ffeithiau fel nifer y bobl sydd wedi ymweld â gwahanol rannau o'r safle. Mae'r ffordd yr ydym yn casglu'r wybodaeth hon yn golygu nad yw unrhyw un yn cael ei enwi. Nid ydym yn gwneud unrhyw gais i ganfod pwy yw'r bobl hynny sy'n ymweld â'n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gasglwyd o'r safle hwn gydag unrhyw wybodaeth sy'n dangos pwy yw pobl o unrhyw ffynhonnell arall.
Os byddwn eisiau casglu gwybodaeth sy'n dangos pwy yw pobl drwy ein gwefan, byddwn yn agored a gonest am hynny. Byddwn yn dweud hynny'n glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol a byddwn yn esbonio beth rydym yn bwriadu ei wneud â'r wybodaeth honno. Mewn achosion fel hyn, byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y byddwn ei hangen ar gyfer y gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano, ac yn ei thynnu wedi hynny. Gyda gwasanaeth gwybodaeth ar-lein, bydd eich gwybodaeth bersonol wedi ei storio hyd nes y byddwch yn penderfynu nad ydych bellach eisiau derbyn y gwasanaeth.
Mae cwcis yn ffeiliau testun bach y mae gwefannau yr ewch iddynt yn eu gosod ar eich cyfrifiadur. Cânt eu defnyddio'n gyffredin iawn i wneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle. Pan ewch chi i'r wefan hon am y tro cyntaf byddwch yn gweld neges yn eich cynghori bod y wefan yn defnyddio cwcis.
Nid yw'r cwcis hyn yn storio unrhyw wybodaeth sensitif fel cyfeiriadau e-bost. Mae'r cwcis a ddefnyddiwn yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad y defnyddwyr ar ein gwefan, er enghraifft, pa feysydd sydd o ddiddordeb iddyn nhw, a pha dudalennau maen nhw'n eu defnyddio'n aml.
Mae'r tabl isod yn esbonio'r cwcis a ddefnyddiwn a pham.