Hidlo'r map
Mae'r tro hwn yn cynnig cymysgedd braf o dir fferm, hen ffyrdd, coetir a bryniau agored, gyda rhai darnau serth o dir i fyny at y pwynt uchaf o 1240 o droedfeddi (378 metr). Gadewch Raeadr Gwy a phasio'r rhaeadr y galwyd y dref ar ei hôl am mai yma mae rhaeadr yr Afon Gwy. Croeswch yr Afon Elan wrth yr hen le rhydio drwy gerdded dros y bont grog siglo i gerddwyr.
Y tu hwnt i Eglwys Sant Gwrthwl yn Llanwrthwl mae'r llwybr yn mynd o amgylch bryn Trembyd (Golygfa o'r Byd), sy'n nodi ymyl ddwyreiniol un o'r ardaloedd mwyaf o ucheldir comin agored yng Nghymru. Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 8 yn cyfuno â darn o'r rhan hon o'r llwybr.
Mae TimeScape yn Rhaeadr Gwy yn agor yr haf hwn yng nghanolfan gelfyddydau gymunedol Rhaeadr Gwy a'r Cylch – CARAD. Mae amgueddfa stryd awyr agored y tu allan i'r amgueddfa hefyd yn arddangos cyfrinachau anhygoel oedd wedi eu cuddio yng nghefn gwlad o amgylch Rhaeadr Gwy, yn cynnwys straeon treftadaeth leol lliwgar. Mae CARAD yn elusen annibynnol sy'n annog pobl i gyfranogi mewn gweithgareddau celf a threftadaeth. Cofiwch gael stamp digidol ar eich pasbort yng nghanolfan CARAD, Unedau 1 a 2 East Street, Rhaeadr Gwy, LD6 5ER.
Mae Fferm Gigrin yn fferm ddefaid deuluol 160 erw sy'n enwog am ei Chanolfan Fwydo Barcud Coch. Roedd barcutiaid cochion yn gyffredin ar un cyfnod ond cawsent eu herlid gan giperiaid Oes Fictoria a chyfrannodd hynny at y dirywiad yn eu nifer. Erbyn yr 1930au, roedd nifer y barcutiaid cochion ym Mhrydain wedi gostwng i ddim ond dau bâr ym mryniau Cymru. Sefydlwyd Gigrin yn 1992 yn dilyn cais gan yr RSBP pan oedd dim ond 6 barcut coch yn clwydo ar y fferm. Diolch i amddiffyniad cyfreithiol a ffisegol mae'r nifer wedi codi i 600 yn y gaeaf.
Mae bryn Trembyd yn nodi ymyl ddwyreiniol un o'r ardaloedd mwyaf o ucheldir comin agored yng Nghymru. Ystyr Trembyd yw ‘Golygfa o'r Byd’ ac mae golygfeydd ysblennydd yno o Fynyddoedd Cambria. Bydd taith gerdded gylchog heriol 10 milltir (6.2 km) o hyd, sy'n gadael Llwybr Dyffryn Gwy wrth Eglwys Sant Gwrthwl yn Llanwrthwl, yn eich cymryd i'r copa sy'n 1969 o droedfeddi (600 metr) o uchder.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort