Caniatâd i'r cwcis

Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd

Gweld Polisi Preifatrwydd
Cau
Rhan 15

O Symonds Yat i Drefynwy

Rhan 15

O Symonds Yat i Drefynwy

Mae'r rhan hon yn gwbl wastad ac yn dilyn llwybr yr hen reilffordd o Rosan ar Wy i Drefynwy, sef llwybr di-geir y Peregrine Path erbyn heddiw i gerddwyr a phobl ar feiciau. Roedd trenau'n stemio drwy geunant yr Afon Gwy islaw clogwynni mawreddog creigiau Seven Sisters ac Ogof y Brenin Arthur.

Ewch heibio i Bont Biblins, sy'n bont siglo adnabyddus i gerddwyr, a Choed Lady Park, Gwarchodfa Natur Genedlaethol oedd wedi ei gadael yn wyllt am bron i 100 mlynedd i weld sut byddai'r coetir naturiol yn datblygu dros amser. Yn agosach at Drefynwy, roedd Hadnock Halt yn le stopio ar gais oedd yn gwasanaethu clwstwr bach o dai gerllaw hyd 1959. Mae darn o ffordd yn arwain i mewn i Drefynwy ac efallai y byddwch yn gweld cipolwg o Eglwys Sant Pedr yn Llandidiwg, adeilad del wedi ei wyngalchu, ar y lan gyferbyn, cyn cyrraedd y bont dros yr Afon Gwy.

Proffil uchder y tir

Gwybodaeth am y Daith

Man cychwyn:
Dwyrain Symonds Yat, gerllaw'r fferi llaw
Gorffen:
Y bont dros yr Afon Gwy yn Nhrefynwy
Pellter:
5.5 milltir (8.8 km)
Amser:
2 awr
Esgyniad yr uchder:
Fawr ddim
Map OS:
Mapiau Explorer OL14 Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena, 189 Hereford & Ross-on-Wye
Bwyd a diod:
Dim ar y ffordd.
Cludiant cyhoeddus:
Nid oes unrhyw gludiant cyhoeddus ar gael.
Lle i gael stamp ar eich pasbort:
Stephen's Book Shop, Church Street, Trefynwy

Uchafbwyntiau

Coed Lady Park

Gwarchodfa Natur Genedlaethol a sefydlwyd yn 1945 gan Gomisiwn Coedwigaeth Lloegr oedd Coed Lady Park i fod yn brosiect ecolegol tymor hir. Am nad yw wedi ei reoli o gwbl, mae'n cael ei astudio'n fanwl i weld sut mae coetir naturiol yn datblygu dros amser heb ymyrraeth fel torri, teneuo neu docio coed. Mae grŵp o artistiaid proffesiynol ‘The Aborealists’ wedi bod yn astudio'r goedwig yma hefyd ac maen nhw wedi creu llyfr diddorol dan y teitl ‘Art Meets Ecology at Lady Park Wood’, sy'n dangos sut mae coetir naturiol yn gweithio.

Ewch i'r wefan
Eglwys Sant Pedr yn Llandidiwg

Mae'r cofnod cyntaf o eglwys o'r enw Llan Tydwg yn y fan yma yn 735 OC i'w gael yn Llyfr Llandaf. Mae'n debyg iddi gael ei dinistrio gan y tywysog o Gymro, Gruffudd ap Llywelyn, yn 1055 pan arweiniodd gyrch i fyny'r Afon Gwy i Henffordd. Mae'n debyg bod yr eglwys wedi ei hail adeiladu'n fuan ar ôl goresgyniad y Normaniaid a'i hail-gysegru i Sant Pedr. Mae'r stepiau i lawr at yr afon yn ein hatgoffa ei fod yn beth cyffredin i bobl gyrraedd drwy deithio dros yr afon, gan gynnwys y ficer oedd yn byw ar y lan gyferbyn. Y tu mewn, mae nodwyr efydd sy'n cofnodi nifer o lifogydd.

Ewch i'r wefan
Neuadd y Sir ac Achosion Llys y Siartwyr

Yn Neuadd y Sir yn Nhrefynwy yr oedd un o'r treialon enwocaf yn hanes Prydain pan gafodd John Frost ac aelodau eraill o'r Siartwyr eu treialu yn 1839/40 am eu hymwneud â Therfysg y Siartwyr yng Nghasnewydd. Cafwyd tri Siartydd yn enwog o uchel frad a'u dedfrydu i farwolaeth drwy grogi, diberfeddu a phedrannu, y tro olaf i'r gosb hon gael ei rhoi ym Mhrydain. Ymyrrodd y Frenhines Fictoria ac allgludwyd y tri i Dir Van Dieman (Tasmania heddiw) am oes. Cafodd pob un o ofynion y Siartwyr eu cyflawni, heblaw am un, sef Seneddau Blynyddol.

Ewch i'r wefan

Cynllunio Eich Antur

Passport StampBoots Illustration

Pasbort Llwybr 
Dyffryn Gwy

Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…

Creu pasbort