Hidlo'r map
Mae'r rhan hon yn cynnig taith gerdded mewn cymysgedd braf o goetir a ffermdir mewn bryniau isel sy'n edrych allan dros yr Afon Gwy. Er ei bod yn daith gerdded drefol i ddechrau, mae llawer o bethau o ddiddordeb hanesyddol yno wrth i'r llwybr ddringo i fyny o'r afon, a gellir gweld Eglwys y Santes Fair a'r gerddi Prospect Gardens gyda'i olygfan yn edrych allan dros ddolen ysgubol o'r Afon Gwy.
Wrth adael y dref rhaid dringo'n raddol at y fryngaer ar gopa Chase Hill, gan basio Gwarchodfa Goed Merrivale ar y ffordd. Mae'r llwybr yn parhau drwy gymysgedd o goetir a chaeau a cheir cipolwg ar Gastell Goodrich mawreddog wrth nesáu at y daith i lawr at Kerne Bridge.
Pan ddechreuodd y Parchedig John Egerton ddifyrru ei westeion ar yr Afon Gwy yn Rhosan ar Wy, ni wyddai ar y pryd y byddai'n cychwyn ffasiwn o deithio i lawr drwy Ddyffryn Gwy sy'n parhau hyd heddiw. Roedd Taith yr Afon Gwy'n beth hynod o ffasiynol i'w wneud ac, erbyn yr 1770au, roedd y daith wedi ei sefydlu'n gadarn fel trip dau ddiwrnod o Rosan ar Wy i Gas-gwent. Roedd hwn yn fath newydd o deithio oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi'r dirwedd. Gwnaeth William Gilpin lawer i wneud y ‘Daith’ yn boblogaidd pan gyhoeddodd deithlyfr hynod o boblogaidd dan y teitl ‘Observations on the River Wye’.
‘Made in Ross’ yw mudiad cydweithredol o artistiaid a chrefftwyr lleol sy'n byw o fewn cylch o 20 milltir i dref farchnad hardd Rhosan ar Wy. Mae'r gwaith unigryw hwn, a gafodd ei greu gan yr artistiaid a'r crefftwyr hyn, wedi ei arddangos i chi ei weld (a'i brynu!) i fyny'r grisiau yn Nhŷ'r Farchnad hanesyddol a adeiladwyd yn yr 16eg ganrif, sef un o'r adeiladau hynaf yn Rhosan ar Wy, lle gallwch hefyd gwrdd â'r artistiaid a'r crefftwyr a greodd y gweithiau gwreiddiol hyn.
Mae gan Rosan ar Wy hanes cyfoethog a rhyfeddol, ac mae'r prosiect ‘Amgueddfa heb Waliau’ yn defnyddio realiti estynedig i ddod ag agweddau o orffennol y dref a gollwyd yn ôl ar dabled neu ffôn clyfar. Gwelwch y cychod a'r badau ar Daith yr Afon Gwy i lawr ar lanfa'r dref. Gwelwch sut y byddai gwaith canolog gardd bleser John Kyrle, The Prospect, wedi edrych yn 1700 pan oedd ffynnon yn llifo yno gyda dŵr a bwmpiwyd i fyny o'r Afon Gwy ac a roddodd ei chyflenwad dŵr cyntaf i'r dref.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort