Caniatâd i'r cwcis

Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd

Gweld Polisi Preifatrwydd
Cau
Rhan 18

Cyrraedd man cychwyn y Llwybr

Rhan 18

Cyrraedd man cychwyn y Llwybr

Mae'r daith gerdded yn dechrau (neu'n diweddu) yn lleoliad anghysbell Rhyd-y-benwch lle does dim gwasanaeth bysiau. Dyma'r tri opsiwn sydd ar gael i chi:

Defnyddiwch Lwybr Hafren i gerdded yr 8 milltir (12.9 km) o Lanidloes, neu i Lanidloes, lle mae gwasanaeth bysiau da, yn cynnwys bysiau i'r orsaf drenau agosaf yn y Drenewydd.

Os byddwch yn gorffen y daith gerdded ym maes parcio Rhyd-y-benwch, gallwch fynd yn ôl y ffordd y daethoch i Langurig (12 milltir / 19.3 km) sydd ar un o brif deithiau'r bysiau.

Defnyddiwch wasanaeth tacsi (neu gyfaill) i'ch cymryd i (neu i'ch casglu o) faes parcio Rhyd-y-benwch. Nid oes signal ffôn symudol ym maes parcio Rhyd-y-benwch. Gwelwch fanylion tacsis yn y fan yma.

Gwybodaeth am y Daith

Man cychwyn:
Llanidloes
Gorffen:
Rhyd-y-benwch
Pellter:
8 milltir (12.9 km)
Amser:
2.45 awr
Esgyniad yr uchder:
570 troedfedd (174 metr)
Map OS:
Outdoor Explorer 214 Llanidloes a'r Drenewydd
Bwyd a diod:
Dim ar y ffordd
Cludiant cyhoeddus:
Gwasanaeth bws National Express rhwng Aberystwyth, Birmingham a Llundain sy'n mynd drwy Lanidloes (maes parcio Gro). Mannau stopio penodol yn unig, archebwch eich lle o flaen llaw. Bws dyddiol rhwng Aberystwyth a Llanidloes (heblaw dydd Sul a'r gwyliau banc).
Lle i gael stamp ar eich pasbort:
Tynnwch lun o'r arwydd pasbort wrth i chi adael y maes parcio i ddechrau ar Lwybr Dyffryn Gwy a'i lanlwytho pan fydd gennych signal.

Uchafbwyntiau

Cynllunio Eich Antur

Passport StampBoots Illustration

Pasbort Llwybr 
Dyffryn Gwy

Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…

Creu pasbort