

Hidlo'r map
RHYBUDD AM Y DAITH: Mae Llwybr Dyffryn Gwy ar gau ger Nant Hardwicke, tua 2 filltir i'r dwyrain o'r Gelli Gandryll. Mae rhan o'r llwybr hwn yn mynd i fyny ac i lawr yn serth mewn rhannau. Pan fyddwch yn gadael y Gelli Gandryll, croeswch Nant Dulas, sy'n nodi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r llwybr yn croesi caeau gan basio Fferm Priory, sy'n awgrymu wrth gwrs bod hwn yn briordy ar un cyfnod, ac yn parhau dros gaeau a lonydd cefn gwlad. Cyn iddo gyrraedd Fferm Locksters Pool, mae'r llwybr yn dilyn hen drac Rheilffordd y Golden Valley am ychydig bellter.
Dyma oedd tir Arglwyddi Normanaidd y Mers ac mae'r llwybr yn pasio mwnt a beili yn Lower Castleton (ac yn Bredwardine). Mae llwybr serth i fyny at Fryn Merbach lle bydd yr uchder o 1000 o droedfeddi (305 metr) yn rhoi golygfeydd i chi dros Fryniau Cymru a'r Malverns. Mae'n bosib bod y llwybr ceffylau yn y fan hon yn hen lwybr i'r porthmyn oedd yn dod ag anifeiliaid i'r marchnadoedd yng Nghanolbarth Lloegr a Llundain. Mae'r daith yn serth i lawr i Bredwardine.
Roedd Comin Merbach yn ardal bori bwysig ar un cyfnod i ffermydd lleol ond, erbyn hyn, mae'n warchodfa natur sydd â glöynod byw, adar a phathewod. Mae Llwybr Dyffryn Gwy'n dilyn llwybr ceffyl, a oedd mae'n debyg yn llwybr i'r porthmyn ar un adeg fyddent yn cymryd eu gwartheg a'u da byw i'r marchnadoedd yng Nghanolbarth Lloegr a Llundain, flynyddoedd lawer cyn i'r rheilffyrdd gyrraedd. O'r garnedd ar gopa Bryn Merbach gallwch weld un sir ar ddeg ar ddiwrnod clir.
Wedi i'r cyn-dramp a ddaeth yn filiwnydd, George Davies, adael £30,000 i helpu'r bobl dlawd yn lleol, ymddangosodd anheddfa anarferol Crafta Webb bron dros nos ar Fryn Bredwardine. Yn ôl y drefn ‘hafod unnos’ credai pobl y gallent hawlio darn o dir comin yn eiddo iddynt os byddent yn adeiladu tŷ arno, gyda mwg yn dod allan o'r simnai, o fewn un noson. Cofnododd Francis Kilvert ymweliadau â'r pentref ffyniannus o 400 o bobl yn ei ddyddiaduron, ond erbyn 1900 roedd pawb wedi mynd. Yr enw arno erbyn hyn yw'r pentref ‘a grebachodd’.
Un o awduron natur a theithio gorau'r 19eg ganrif oedd Francis Kilvert, sef ficer Cleirwy a Bredwardine. Cadwodd ddyddiadur yn cofnodi digwyddiadau bywyd o ddydd i ddydd fel roedd ef yn eu gweld nhw, yn sôn am ffordd o fyw ar ffin Cymru sydd bellach wedi diflannu. Mae sedd goffa, o dan goeden ywen enfawr ym mynwent Eglwys Sant Andreas yn Bredwardine, i gofio am Francis, a fu farw yma yn 1879, yn 38 oed. Mae ei fedd yn groes farmor ar ochr Ogleddol Eglwys Sant Andreas.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort