
Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd
Cynllunio
Mae Celtic Trails yn gwmni teuluol sy'n trefnu gwyliau cerdded ac sydd wedi ei seilio yn Nhyndyrn ar lannau'r Afon Gwy. Mae'r ffaith ein bod yn agos at Lwybr Dyffryn Gwy (a Llwybr Clawdd Offa) yn ein rhoi ni yn y sefyllfa berffaith i gynnig y cymorth a'r cyngor gorau i'n cwsmeriaid, am ein bod wedi ein hamgylchynu gan rai o dirweddau mwyaf ysblennydd y DU. Ers mwy na 25 mlynedd, rydym wedi bod yn annog cerddwyr i archwilio'r dyffryn prydferth hwn ar wyliau hunan-dywys, gan wylio'r tymhorau'n newid o flodau cyntaf y gwanwyn i liwiau dramatig yr hydref. Gall ein tîm profiadol gyfateb eich gofynion chi gyda'r gwyliau perffaith yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon.
Ewch i'r wefan
Mae Great British Walks wedi ei seilio yn Nhrefynwy yn Nyffryn Gwy. Rydym yn falch iawn o gael cynnig gwyliau teithiau cerdded hir ar Lwybr Dyffryn Gwy a Llwybr Clawdd Offa. Rydym yn gwmni sydd wedi ennill ei blwyf sy'n trefnu gwyliau cerdded ac sy'n arbenigo mewn gwneud eich gwyliau cerdded yn berffaith. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys trosglwyddo bagiau ar hyd ein teithiau cerdded. Rydym yn cyflenwi'r holl dywyslyfrau a mapiau y byddwch eu hangen ar gyfer eich dewis daith gerdded, ynghyd â chyswllt defnyddiol a chyfeillgar gan ein staff profiadol.
Ewch i'r wefan
Mae'n bosib mai dyffryn yr Afon Gwy yw'r dyffryn afon sydd wedi ei sbwylio leiaf ym Mhrydain ac mae'r afon yn llifo drwy dirwedd anhygoel sy'n gyfoethog â hanes Cymreig a Seisnig. Wrth grwydro drwy Ddyffryn Gwy, mae adfeilion Abaty Tyndyrn yn dod i'r golwg – harddwch mewn carreg tra bo hen ganeuon mynachod hynafol fel petaent yn atsain o amgylch y cerrig hyn. Rydym yn dilyn rhannau o Lwybr Dyffryn Gwy, Llwybr Clawdd Offa a'r llwybrau oddi amgylch sy'n ymlwybro ar hyd llethrau'r bryniau yn uchel uwchlaw'r Afon Gwy fawreddog sy'n aml yn dod i'r golwg mewn mannau gyda golygfeydd rhagorol fel Craig Symonds Yat a Nyth yr Eryr.
Ewch i'r wefan
Mae Contours Walking Holidays yn trefnu popeth, o drosglwyddo bagiau a lleoedd aros dros nos i becyn gwyliau cynhwysfawr gyda mapiau a thywyslyfrau, gan sicrhau bod gennych bopeth yr ydych angen ei angen i ddarganfod Dyffryn Gwy ar eich cyflymder eich hun.
Ewch i'r wefan
The Wye River criss-crosses the Welsh and English borders as it winds its way through scenic and tranquil countryside. The author George Borrow once described it as ‘the most lovely river, probably, the world can boast of’. As a border river it has an intriguing history with Iron Age Hillforts and a string of castles defending its boundaries. Today, it’s a place where grapes ripen, salmon leap, markets bustle and culture thrives, especially in Hay-on-Wye, a famous literary town.
Visit Website
Drover Holidays is an independent walking and cycling tour operator based in beautiful Hay-on-Wye. The company offers short breaks and longer tours, on foot or by bike, which include accommodation, luggage transfer, customised maps and friendly back-up. Self-guided, escorted and dog-friendly options are available and the team is very happy to tailor itineraries to suit your requirements.
Visit Website
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr AHNE Dyffryn Gwy