Caniatâd i'r cwcis

Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd

Gweld Polisi Preifatrwydd

Fy mhasbort

Mae cerdded pob un o 136 o filltiroedd Llwybr Dyffryn Gwy'n gyflawniad gwych. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…

Peidiwch ag Anghofio eich Pasbort!

Cofrestrwch ar gyfer ein cynllun pasbort Llwybr Dyffryn Gwy a gallwch hawlio eich tystysgrif swyddogol Llwybr Dyffryn Gwy gyda bathodyn pan fyddwch yn cwblhau'r daith gerdded. Casglwch stampiau digidol ar eich ffordd wrth i chi gwblhau bob rhan, nid dim ond pan fyddwch yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr! Mae'n ffordd hwyliog o gofnodi'r milltiroedd a chadw hanes eich taith.

Roedd ein cerddwr hynaf i dderbyn eu pasbort Llwybr Dyffryn Gwy ymhell yn eu 80au. Rhoesom dystysgrif hefyd i gi annwyl o'r enw Jack, wedi iddo gerdded, nofio a mynd mewn canŵ ar yr Afon Gwy o'r tarddle i'r môr gyda'i berchennog, yr ymgyrchydd a'r hyrwyddwr afonydd Angela Jones.

Sut mae'n gweithio

Ar ddiwedd pob cam byddwch yn gweld un o'r arwyddion hyn lle gallwch sganio cod QR, a fydd yn dangos eich bod wedi cwblhau'r rhan honno o'r daith gerdded. Bydd eich pasbort digidol yn cael ei stampio'n awtomatig. Byddwch yn gweld arwyddion fel hwn yn ffenestr/drws siopau, caffis, tafarnau, lletyau gwely a brecwast, atyniadau i dwristiaid neu ganolfannau croeso yn yr ardal leol. Mae rhai i'w cael ar hysbysfyrddau mewn pyrth eglwysi. Maen nhw i gyd yn hygyrch unrhyw bryd, felly does dim rhaid i chi boeni am gyrraedd ar ôl oriau. Mae disgrifiad o'r lleoliadau i gyd yn y disgrifiad llwybr ac maen nhw wedi eu marcio ar fap y daith yma. Mae 17 stamp i'w casglu i gyd a byddwch angen o leiaf 12 i hawlio eich bathodyn a'ch tystysgrif. Nid oes signal ffôn symudol ym maes parcio Rhyd-y-benwch (dechrau/diwedd y Llwybr), felly tynnwch lun ohonoch eich hun a'i lanlwytho i hawlio eich stamp ar gyfer y rhan honno o'r daith gerdded.

Sut mae codau QR yn gweithio?

Yn syml iawn, gallwch ddefnyddio camera eich ffôn i sganio'r cod QR a chewch eich cymryd yn awtomatig i'r dudalen basbort ar ein gwefan.

Creu Pasbort

Cofrestrwch cyn i chi ddechrau eich antur er mwyn i chi allu dechrau casglu stampiau ar unwaith.

Creu Pasbort

Oes gennych chi gyfrif eisoes? Mewngofnodwch i'ch Pasbort yma
Thank you! Your submission has been received!
Oops! Something went wrong while submitting the form.
Example QR code sign

Yr Hen Gynllun Pasbort

Byddwn yn parhau i gyflwyno tystysgrifau a bathodynnau i bobl sydd wedi bod yn casglu stampiau pasbort ffisegol, ond cofiwch fod llawer o leoliadau stampio pasbort wedi cau yn ystod y cyfnod clo ac nid ydynt yn gweithredu bellach. Dyma pam rydym wedi lansio'r pasbort digidol newydd. Os gallwch, tynnwch lun a'i atodi gyda'ch cais am basbort, ond peidiwch â phoeni os oes gennych unrhyw fylchau, byddwn yn dal i gyhoeddi tystysgrifau a bathodynnau.

Ble i Gasglu eich Stampiau Pasbort

O faes parcio Rhyd-y-benwch i Langurig

12.25 milltir (19.7 km)

Siop a swyddfa bost Llangurig
Gweld y llwybr

O Langurig i Raeadr Gwy

12 milltir (19.3 km)

Amgueddfa CARAD, Unedau 1 a 2, East Street, Rhaeadr Gwy
Gweld y llwybr

O Raeadr Gwy i'r Bontnewydd-ar-Wy

9.5 milltir (15.3 km)

Swyddfa'r post yn y Bontnewydd-ar-Wy
Gweld y llwybr

O'r Bontnewydd-ar-Wy i Lanfair-ym-Muallt

6.5 milltir (10.5 km)

Llety Gwely a Brecwast Bron Wye, Church Street, Llanfair-ym-Muallt
Gweld y llwybr

O Lanfair-ym-Muallt i Erwyd

7.25 milltir (11.7 km)

Former Erwood Station (on glass window on left of entrance door)
Gweld y llwybr

O Erwyd i'r Clas-ar-Wy

8.75 milltir (14.1 km)

Caffi'r Paddler's Rest yng Nghanolfan Gweithgareddau'r Afon Gwy, Y Clas-ar-Wy, HR3 5NW
Gweld y llwybr

O'r Clas-ar-Wy i'r Gelli Gandryll

4.75 milltir (7.6 km) – llwybr arall (ger Llowes) 5 milltir (8 km)

W. Golesworthy & Sons, 17 Broad Street, Y Gelli Gandryll
Gweld y llwybr

Hay-on-Wye to Bredwardine

8.5 milltir (13.7 km)

Eglwys Sant Andreas yn Bredwardine
Gweld y llwybr

O Bredwardine i Byford

4.75 milltir (7.6 km)

Eglwys Sant Ioan yn Byford
Gweld y llwybr

O Byford i Henffordd

9.75 milltir (15.7 km)

Hereford Museum and Art Gallery, Broad Street or Hereford Tourist Information Centre, Town Hall, St Owen's Street
Gweld y llwybr

O Henffordd i Fownhope

6.75 milltir (10.9 km)

Eglwys y Santes Fair yn Fownhope
Gweld y llwybr

O Fownhope i Rosan ar Wy

10.5 milltir (16.9 km)

Tafarn yr Hope & Anchor ar lan yr afon yn Rhosan ar Wy
Gweld y llwybr

O Rosan ar Wy i Kerne Bridge

5.5 milltir (8.8 km)

Tafarn yr Inn on the Wye yn Kerne Bridge
Gweld y llwybr

O Kerne Bridge i Symonds Yat

7.5 milltir (12.1 km)

Tafarn y Saracen's Head, Dwyrain Symonds Yat
Gweld y llwybr

O Symonds Yat i Drefynwy

5.5 milltir (8.8 km)

Stephen's Book Shop, Church Street, Trefynwy
Gweld y llwybr

O Drefynwy i Dyndyrn

10.25 milltir (16.5 km)

Hen Orsaf Tyndyrn
Gweld y llwybr

O Dyndyrn i Gas-gwent

5.75 milltir (9.3 km)

Canolfan Croeso Cas-gwent, Bridge Street, Cas-gwent
Gweld y llwybr

Cyrraedd man cychwyn y Llwybr

8 milltir (12.9 km)

Tynnwch lun o'r arwydd pasbort wrth i chi adael y maes parcio i ddechrau ar Lwybr Dyffryn Gwy a'i lanlwytho pan fydd gennych signal.
Gweld y llwybr

Cynllunio Eich Antur