Caniatâd i'r cwcis

Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd

Gweld Polisi Preifatrwydd
Cau
Rhan 16

O Drefynwy i Dyndyrn

Rhan 16

O Drefynwy i Dyndyrn

Mae'r llwybr hwn yn aros ar lefel yr afon rhwng Trefynwy ac Abergwenffrwd, gan basio drwy Faes y Sioe yn Nhrefynwy ac o Redbrook yn dilyn yr hen reilffordd i Abergwenffrwd. Mae'r llwybr yn dringo'n serth i fyny at Ben y Fan cyn lefelu'n wastad ar 787 o droedfeddi (240 metr) ar hyd Taith y Dduges ar ymyl y dyffryn uwchlaw Llaneuddogwy.

Gan basio Rhaeadr Cleddon, mae'r llwybr yn gostwng yn raddol yn nes ymlaen i Whitestone (safle i gael picnic a gweld y golygfeydd), yn parhau drwy goetir ac yna'n disgyn yn serth i lawr i'r afon yn Brockweir. Mae'r hen reilffordd yn arwain i'r Hen Orsaf yn Nhyndyrn a llwybr ar hyd ochr yr afon i Eglwys Sant Mihangel gyda phalmentydd drwy'r pentref i Abaty Tyndyrn. Gall darnau o'r rhan hon fynd yn weddol leidiog mewn tywydd gwlyb.

Proffil uchder y tir

Gwybodaeth am y Daith

Man cychwyn:
Y bont dros yr Afon Gwy yn Nhrefynwy
Gorffen:
Abaty Tyndyrn yn Nhyndyrn
Pellter:
10.25 milltir (16.5 km)
Amser:
4 awr 30 munud
Esgyniad yr uchder:
1116 troedfedd (340 metr)
Map OS:
Mapiau Explorer OL14 Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena, 189 Hereford & Ross-on-Wye
Bwyd a diod:
Dwy dafarn a siop y pentref yn Redbrook, ystafell de yn Hen Orsaf Tyndyrn (tymhorol), tafarnau a chaffis yn Nhyndyrn.
Cludiant cyhoeddus:
Mae bws yn mynd tua bob 2 awr ar hyd yr A466 rhwng Trefynwy a Chas-gwent, ac mae'n stopio ar gais.
Lle i gael stamp ar eich pasbort:
Hen Orsaf Tyndyrn

Uchafbwyntiau

Rhaeadr Cleddon

Mae Rhaeadr Cleddon yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy'n bwysig ar gyfer llysiau'r afu a mwsoglau. Dafliad carreg o'r rhaeadrau mae'r Cerrig Bara a Chaws siâp rhyfedd, a oedd ar un cyfnod yn lle i drigolion Cleddon fynd i edrych allan, lle gallent weld badau'n dod i fyny'r afon ac yna rasio i lawr at y cei i ennill arian am ddadlwytho llwythi. Y farn yw bod y golygfeydd yn y fan yma wedi ysbrydoli Wordsworth pan ymwelodd â'r ardal yn 1798, i ysgrifennu ei gerdd enwog ‘Lines Composed a Few Miles above Tintern Abbey’.

Ewch i'r wefan
Gardd Gerfluniau Dyffryn Gwy

Yr ardd hon sy'n wynebu'r de, ac sy'n dathlu celf, planhigion a bywyd gwyllt, oedd gweledigaeth yr artist Gemma Kate Wood, sy'n wyres i'r cwpwl a sefydlodd fferm fechan organig yma yn yr 1950au. Mae ei rhieni, y ddau'n fotanegwyr ac ecolegwyr, wedi bod yn casglu planhigion ers mwy na 40 mlynedd. Heddiw, mae cyfres o lawntiau ffurfiol wedi eu hamgylchynu gan ymylon llysieuol lliwgar, ardaloedd coediog a pherllan yn gefnlun i gerfluniau Gemma, sy'n adlewyrchu bywyd wedi ei gysylltu'n ddwfn â'r dirwedd hon.

Ewch i'r wefan
Dyffryn Angidy – Crud Diwydiant

Blodeuodd Dyffryn Angidy o'r 1560au ymlaen ac roedd yn un o'r mannau cynharaf yn y DU i ddiwydiannu. Erbyn yr 17eg ganrif, roedd Tyndyrn yn bentref diwydiannol lle'r oedd cannoedd o bobl wedi eu cyflogi yn un o'r canolfannau diwydiannol integredig yn y wlad yn gwneud gwifrau. Parhaodd diwydiannau metel y pentref ar flaen y gad mewn datblygu diwydiannol ym Mhrydain am fwy na 300 o flynyddoedd, ac roedd 20 neu fwy o olwynion dŵr ar hyd yr Afon Angidy yn y 19eg ganrif. Mae Llwybr Angidy'n dilyn hen ffrydiau a llwybrau am 2 filltir (3.2 km) i fyny at adfeilion Ffwrnais Abaty Tyndyrn.

Ewch i'r wefan

Cynllunio Eich Antur

Passport StampBoots Illustration

Pasbort Llwybr 
Dyffryn Gwy

Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…

Creu pasbort