Caniatâd i'r cwcis

Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd

Gweld Polisi Preifatrwydd
Cau
Rhan 17

O Dyndyrn i Gas-gwent

Rhan 17

O Dyndyrn i Gas-gwent

O Dyndyrn mae'r llwybr yn dringo drwy goedwigoedd, gan basio hen odynnau calch a chroesi caeau i Black Cliff, a pharhau ar hyd esgair goediog i Goed Wyndcliff. Uchafbwynt y rhan hon yw'r olygfa banoramig o olygfan Nyth yr Eryr, rhyw 700 o droedfeddi (213 metr) uwchlaw Aber yr Afon Hafren. Dyma'r fan uchaf ar ystâd pictiwrésg Piercefield. Mae'r rhan hon yn mynd i lawr 365 o stepiau (un i bob dydd o'r flwyddyn), gan groesi'r A466 i Goed Wyndcliff Isaf.

Mae'r llwybr yn parhau trwy Barc Piercefield, tirwedd hanesyddol rhestredig Gradd I a grëwyd yn y 18fed ganrif gyda chyfres o safbwyntiau a nodweddion hanesyddol gan gynnwys The Lover's Leap, The Giant's Cave, The Grotto a'r Alcove, o'r man lle gallwch weld eich cyrchfan olaf – Castell Cas-gwent. Allan o'r goedwig mae'r llwybr yn dilyn ffyrdd trefol i lawr yr allt a thrwy Gastell Dell i'r Ganolfan Groeso gerllaw castell canoloesol y dref. Llun: Castell Cas-gwent: Hawlfraint y Goron, Croeso Cymru / Visit Wales.

Proffil uchder y tir

Gwybodaeth am y Daith

Man cychwyn:
Abaty Tyndyrn
Gorffen:
Canolfan Croeso Cas-gwent yn Bridge Street
Pellter:
5.75 milltir (9.3 km)
Amser:
3 awr 45 munud
Esgyniad yr uchder:
1577 troedfedd (481 metr)
Map OS:
Mapiau Explorer OL14 Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena, 189 Hereford & Ross-on-Wye
Bwyd a diod:
Dim ar y ffordd. Tafarn Piercefield, hanner milltir oddi ar y llwybr yn St Arvans. Tafarnau a chaffis yng Nghas-gwent.
Cludiant cyhoeddus:
Mae bws yn mynd tua bob 2 awr ar hyd yr A466 rhwng Trefynwy a Chas-gwent, ac mae'n stopio ar gais.
Lle i gael stamp ar eich pasbort:
Canolfan Croeso Cas-gwent, Bridge Street, Cas-gwent

Uchafbwyntiau

Abaty Tyndyrn

Mae hwn yn sefyll yn fawreddog ar lannau'r Afon Gwy, ac ychydig iawn o adfeilion sydd â'r un rhamant ag Abaty Tyndyrn. Roedd y mynachod Sistersaidd a sefydlodd Tyndyrn yn 1131 wedi adeiladu campwaith o bensaernïaeth Gothig Brydeinig dros y 200 o flynyddoedd dilynol. Cafodd ei adael i fyd natur ei oresgyn wedi i Frenin Harri VIII ddiddymu'r mynachlogydd, a llwyddodd adfeilion Tyndyrn dan ei eiddew trwchus i gipio sylw teithwyr ar ‘Daith yr Afon Gwy Bictiwrésg’ ym mlynyddoedd hwyr y 18fed ganrif a blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Ymysg y rhain roedd Turner, Wordsworth a Coleridge.

Ewch i'r wefan
Piercefield Pictiwrésg

Pan etifeddodd Valentine Morris ystâd Piercefield yn 1743 aeth ati i'w dirlunio ar raddfa fawreddog go iawn. Canlyniad hyn oedd un o'r enghreifftiau mwyaf ardderchog o dirwedd ‘Bictiwrésg’ ym Mhrydain yn y 18fed ganrif, a ddaeth yn uchafbwynt ar ddiwedd ‘Taith yr Afon Gwy’. Roedd Ogof y Cawr yn ffefryn gan ymwelwyr a fyddai'n cael eu cynghori i ddod ag ychydig o bowdr gwn gyda nhw i arddwr Mr Morris danio canon wrth iddynt basio, gan greu datseiniad mawr. Gallwch weld nifer o'r nodweddion hyd heddiw.

Ewch i'r wefan
Castell Cas-gwent

Yn sefyll ar glogwynni calchfaen yn uchel uwchlaw'r Afon Gwy, Castell Cas-gwent oedd y castell carreg Normanaidd cyntaf ym Mhrydain. Cafodd y gwaith adeiladu ei gychwyn yn 1067 ac esblygodd y castell dros y 600 o flynyddoedd dilynol i wrthsefyll arfau oedd yn mynd yn gynyddol ddinistriol ag angheuol. Roedd hyd yn oed drysau'r castell wedi eu gorchuddio â haearn i atal yr ymosodiadau a'r saethau tanllyd. Rhain yw'r drysau castell hynaf sydd ar ôl yn Ewrop. Cawsent eu hadeiladu yn yr 1190au ac maent wedi eu harddangos yn ddiogel erbyn hyn ym mhorthdy'r castell.

Ewch i'r wefan
Amgueddfa Cas-gwent

Mae Amgueddfa Cas-gwent mewn tŷ cain a adeiladwyd yn y 18fed ganrif gan deulu o fasnachwyr cefnog o Gas-gwent ac mae'n dangos mor gyfoethog ac amrywiol yw gorffennol y dref hynafol hon. Mae gan yr amgueddfa gasgliad sylweddol o baentiadau, printiau a dyddiaduron teithio o'r 18fed a'r 19eg ganrif sy'n ymwneud â ‘Thaith yr Afon Gwy’ ac sy'n dangos apêl Cas-gwent a Dyffryn Gwy i artistiaid a thwristiaid fel ei gilydd. Roedd Cas-gwent yn borthladd pwysig, ac mae'r fasnach win, adeiladu llongau a physgota eog ymysg y diwydiannau sydd dan sylw mewn arddangosiadau atmosfferig.

Ewch i'r wefan

Cynllunio Eich Antur

Passport StampBoots Illustration

Pasbort Llwybr 
Dyffryn Gwy

Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…

Creu pasbort