Hidlo'r map
Mae'r rhan hon yn croesi'r Afon Gwy yn Kerne Bridge ac yn ymlwybro drwy gymysgedd o goetir a chaeau glan afon, gan fynd o amgylch Ystâd Courtfield (lle'r oedd y Brenin Henry V yn byw pan oedd yn blentyn) i ddianc aer brwnt Trefynwy! Mae'r llwybr yn pasio'r eglwys dawel yn Llangystennin Garth Brenni, a'i rheithordy sydd yn awr yn Hostel i'r Ifanc.
Gan groesi'r Afon Gwy eto dros hen bont rheilffordd yn Lydbrook, mae'r llwybr yn pasio hen ffatri segur, Gwaith Ceblau Edison Swan. Cafodd miloedd eu cyflogi yma yn ystod y ddau Ryfel Byd, yn cynhyrchu ceblau trydanol ar gyfer y ffonau ar faes y frwydr a gwifrau main ar gyfer siacedi cynnes i beilotiaid a chriwiau'r awyrennau bomio. Mae'r rhan nesaf yn teimlo'n dawel ac anghysbell gyda golygfeydd gwych tuag at Coldwell Rocks a Symonds Yat. Gallwch ddewis dringo i fyny at Graig Symonds Yat, gan ddilyn olion traed y twristiaid cynharach a ddaeth ar daith yr Afon Gwy. Mae'r llwybr yn dringo i fyny o amgylch Huntsham Hill cyn mynd i lawr i Ddwyrain Symonds Yat.
Mae Castell Goodrich yn un o'r cestyll canoloesol gorau ac sydd wedi parhau yn y cyflwr gorau drwy Loegr i gyd. Mae'n sefyll ar esgair sy'n diogelu lle croesi pwysig ar yr afon ac mae golygfeydd ysblennydd i'w gweld o fylchfuriau'r castell. Bu'r castell o dan berchnogaeth y ddwy ochr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr – cafodd ei ildio i luoedd y Seneddwyr yn 1646 gyda chymorth ‘Roaring Meg’, sef canon â thaflwybr uchel a ddechreuodd chwalu'r waliau. Mae'n bosib gweld ‘Roaring Meg’ hyd heddiw, y tu mewn i waliau'r castell.
Wrth Graig Symonds Yat, mae llif yr Afon Gwy'n troi'n ddolen enfawr gannoedd o droedfeddi islaw, gan greu un o'r golygfeydd mwyaf eiconig ar Lwybr Dyffryn Gwy. Yn ogystal â'r golygfeydd gwych o'r afon, mae hebogau tramor hefyd yn rhan o atyniad Craig Symonds Yat, am eu bod yn nythu ar glogwynni Creigiau Coldwell gerllaw. O'r olygfan mae'n bosibl gweld yr hebogau'n hela ac yn magu eu cywion rhwng misoedd Ebrill ac Awst.
Dydy llawer o'r ymwelwyr â Chraig Symonds Yat ddim yn sylweddoli eu bod yn pasio drwy ragfuriau hynafol bryngaer o'r Oes Haearn pan maen nhw'n cerdded o'r maes parcio i Graig Symonds Yat. Adeiladwyd y fryngaer ar Symonds Yat rhwng 700 CC a 43 OC ac roedd wedi ei hamddiffyn ar ddwy ochr gan glogwynni serth ac ar y drydedd ochr gan bum rhagfur consentrig, a chan bob un ffos a chlawdd sylweddol. Mae maint y bryngaerau hyn yn awgrymu bod y rhain lawn cymaint o ddatganiad am fri'r bobl oedd yn byw yno ag oeddent yn fannau amddiffynnol i ddianc iddynt yn ystod cyfnod o frwydro.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort