Hidlo'r map
Mae hwn fel arfer yn ddiwrnod hawdd o gerdded, a llawer ohono ar hyd yr afon, yn weddol wastad gyda rhai elltydd ysgafn. Mae'r llwybr yn gadael y Bontnewydd-ar-Wy ar darmac am 800 llath (750 metr). Byddwch yn ofalus iawn ar y rhan hon o'r daith am fod y traffig yn teithio'n gyflym iawn ar y ffordd hon.
Yn agos at Lanfair-ym-Muallt, mae'r dyfroedd gwyllt a phyllau dwfn yng Nghreigiau Penddol yn arbennig o ysblennydd ar ôl glaw trwm. Mae'r llwybr yn cyrraedd Llanfair-ym-Muallt ar hyd rhodfa goed gerllaw'r Afon Gwy drwy barc Y Groe.
Llanelwedd, sydd yr ochr arall i'r afon o Lanfair-ym-Muallt, yw cartref a maes arddangos parhaol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Pan fydd Sioe Frenhinol Cymru'n digwydd ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, mae Llanfair-ym-Muallt yn orlawn ag arddangoswyr, ymwelwyr a'r gymuned ffermio o bob cwr o'r wlad, am bedwar diwrnod o gystadlu sy'n cynnwys da byw, torri coed, treialon cŵn defaid, cneifio, garddwriaeth, mêl a chrefftau, yn ogystal ag atyniadau, arddangosiadau, gweithgareddau a cherddoriaeth fyw.
Yn y 18fed ganrif daeth yn ffasiynol i ymweld â lleoedd oedd â ffynhonnau dŵr mwynol i ‘gymryd y dŵr’. Gallai Llanfair-ym-Muallt gynnig Ffynhonnau'r Parc (dŵr halwynog) a Ffynhonnau'r Glannau (ffynnon sylffwr), oedd yn boblogaidd gyda phobl o Oes Fictoria a'r Oes Edwardaidd oedd yn chwilio am iachâd. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn yr 1860au a bu hynny o gymorth i gynyddu poblogrwydd y dref, ac ychwanegwyd ‘Wells’ i'w henw Saesneg – Builth Wells. Cafodd ardal glan yr afon, sef Y Groe, ei throi'n ardal gyhoeddus braf gyda phafiliwn cychod a bandstand.
Mae cofeb yng Nghilmeri, y tu allan Lanfair-ym-Muallt i ddangos y fan lle lladdwyd yr arwr o Gymro, Llywelyn ap Gruffudd, yn 1282. Llywelyn oedd gwir Dywysog olaf Cymru cyn i'r teitl gael ei ail ddefnyddio gan Edward I a'i roi i etifedd gwrywaidd gorsedd Lloegr. Yn dilyn ei farwolaeth, yn ôl y chwedl, cafodd pen Llywelyn ei olchi yn y ffynnon gerllaw. Gyda'i farwolaeth y daeth diwedd i wrthsafiad trefnedig i reolaeth Lloegr yng Nghymru ac, i bob pwrpas, terfynodd yr hawliad am annibyniaeth Cymru gyda'i farwolaeth ef.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort