Hidlo'r map
O'r bont dros yr Afon Gwy, mae llwybr glan yr afon yn ymlwybro drwy Bishops Meadow i bont grog Fictoria sy'n croesi'r Afon Gwy. Yna mae'r daith gerdded yn dilyn llwybrau trefol allan o Henffordd, gan ymuno â llwybr troed sy'n dirwyn yn agos at yr Afon Gwy gan ddilyn y gorlifdir draw i Hampton Bishop ac at dafarn o'r enw Bunch of Carrots! Croeswch y B4224 a dilynwch yr afon Llugwy i bentref Mordiford. Mae darn bryniog yn mynd o amgylch coetir hynafol rhwng Mordiford a Fownhope, gan basio Bagpiper's Tump.
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, roedd milwyr Albanaidd o fyddin y Seneddwyr yn gwersylla yma ac mae'n debyg bod pibydd ar y bibgod wedi ymarfer ar fryncyn bach a elwid y ‘tump’. Os hoffech ymweld â Fownhope, ar ôl croesi'r ffordd i'r de o Fferm Nupend, chwiliwch am lwybr troed ar y dde i'ch cymryd i lawr i'r pentref sydd 750 llath (700 metr) i ffwrdd.
Mae lleoliad yr eglwys gadeiriol wedi bod yn fan addoli ers 696 a chafodd ei hailadeiladu yn gynnar yn y 12fed ganrif yn yr arddull Normanaidd/Romanésg. Erbyn diwedd y 12fed ganrif, roedd wedi dod yn ganolfan ddysgu genedlaethol bwysig. Mae gan Henffordd Lyfrgell Gadwynog unigryw o'r 17eg ganrif lle defnyddir y system ddiogelu effeithiol o ddal llyfrau yn eu lle gyda chadwynau. Hon yw'r fwyaf o'i bath i oroesi gyda'i holl gadwyni, rhodenni a chloeon yn gyfan o hyd. Efengylau Henffordd a ysgrifennwyd yn yr 8fed ganrif yw'r llyfr hynaf a phwysicaf yn y llyfrgell.
Cafodd un o drysorau gorau'r byd canoloesol, y Mappa Mundi yn Henffordd ei greu oddeutu'r flwyddyn 1300. Mae mwy na 500 o ddarluniau ar femrwn yn dangos 420 o ddinasoedd a threfi, 15 o ddigwyddiadau o'r Beibl, 33 o blanhigion, anifeiliaid, adar a chreaduriaid rhyfedd, 32 o luniau o bobloedd y byd ac 8 darlun o fytholeg glasurol. Mae'n gipolwg hynod o ddiddorol ar y ffordd yr oedd ysgolheigion yn dehongli'r byd yn ysbrydol ac yn ddaearyddol ar y pryd.
Mae'r Tŷ Du a Gwyn, sydd ynghanol Henffordd, yn dŷ ffrâm bren Jacobeaidd sydd wedi ei gadw'n rhyfeddol o dda. Adeiladwyd hwn yn 1621 a llwyddodd i osgoi cael ei ddinistrio ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif pan gafodd nifer o'r adeiladau o'i amgylch eu rhwygo i lawr. Nawr mae'r Tŷ Du a Gwyn yn amgueddfa wedi ei dodrefnu yn arddull y cyfnod, ac mae'n rhoi cipolwg ar fywyd dyddiol yn y cyfnod Jacobeaidd drwy ei gasgliad rhyngwladol bwysig o ddodrefn derw a murluniau prin o Loegr.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort