Hidlo'r map
Taith gerdded hawdd, yn bennaf ar lwybrau gwastad ar ymylon caeau a thraciau ond gyda rhai rhannau ar ffyrdd. Gan adael Pont Erwyd mae'r llwybr yn pasio Oriel Gelf Gorsaf Erwyd gynt. Mae'r cwpwl o filltiroedd cyntaf yn mynd ar hyd y ffordd cyn croesi'r Afon Gwy dros y bont grog yn Llansteffan.
Ar ôl y bont mae rhan fer iawn ar ymyl ffordd brysur yr A470. Yn ôl ar lan yr afon mae darn arbennig o hardd o'r Afon Gwy, yn pasio Neuadd Llangoed, a oedd yn eiddo i Laura Ashley ar un cyfnod. Mae golygfeydd hyfryd o'r Mynydd Du ar y rhan hon i lawr i Fochrwyd. Byddwch yn croesi'r afon eto a bydd llwybrau gwastad dros y caeau'n arwain i mewn i'r Clas-ar-Wy.
Yr hen enw ar Neuadd Llangoed oedd Castell Llangoed, ond heddiw mae'n westy moethus. Mae'n bosib mai dyma lle'r oedd safle Senedd gyntaf Cymru. Cafodd y plasty, a adeiladwyd oddeutu'r flwyddyn 1633 ar arddull Jacobeaidd, ei ailfodelu gan Syr Clough Williams-Ellis cyn 1914 (a aeth ati'n ddiweddarach i brynu a dylunio pentref dull Eidalaidd Portmeirion). Yn amgylchynu'r neuadd mae gerddi muriog a choed ysblennydd ac, ar un cyfnod cyflogid 20 o ddynion yno i ofalu am y gerddi.
Adeiladwyd y bont hon gan David Rowell a Chwmni Westminster yn 1922 a dyma'r unig bont grog bren i gerbydau sydd ar ôl yng Nghymru. Adeiladodd yr un cwmni'r bont dros yr Afon Gwy yn Foy yn Swydd Henffordd y byddwch yn ei phasio yn nes ymlaen ar y daith, ac mae gan honno waith latis tebyg.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort