Caniatâd i'r cwcis

Trwy glicio "Derbyn", rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais er mwyn gwella'r llywio o amgylch y wefan, i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r safle, ac i helpu gyda'n gwaith marchnata. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd

Gweld Polisi Preifatrwydd
Cau

Llwybr Dyffryn Gwy

Hidlo'r map

Dechrau Arni

Dydy hi ddim yn hawdd cynllunio taith gerdded 136 o filltiroedd o hyd felly, yn y fan yma, rydym wedi casglu'r holl wybodaeth y byddwch ei hangen ar gyfer eich taith gerdded ar un o hoff lwybrau hir y genedl.

Cwestiynau cyffredin

Faint o amser mae'n ei gymryd i gerdded Llwybr Dyffryn Gwy ar ei hyd?

Mae'r tywyslyfr swyddogol gan Cicerone yn rhannu'r daith gerdded 136 milltir hon yn 17 rhan, sy'n amrywio o 4 i 12 milltir, felly gallwch ddewis pa mor bell y cerddwch bob dydd. Trwy gerdded cyfartaledd o 13.5 milltir y diwrnod, bydd yn cymryd 10 diwrnod i chi ei gwblhau. Os byddwch yn cerdded yn gyflymach, gan gwblhau 19 milltir y diwrnod, bydd y daith yn cymryd 7 diwrnod. Bydd 12 diwrnod yn rhoi amser i chi archwilio am fod digonedd i'w ddarganfod ar hyd y ffordd. Cofiwch ganiatáu amser i bethau a fydd yn tynnu eich sylw, yn bethau a gynlluniwyd gennych neu drwy lwc, fel bod gennych amser i sefyll a'u mwynhau. Ewch mor araf neu mor gyflym ag sy'n gyfforddus i chi.

Ymhle ydw i'n dechrau/gorffen?

Mae cerrig nodi Dechrau/Gorffen ym maes parcio Rhyd-y-benwch, Coedwig Hafren yng Nghanolbarth Cymru a ger Castell Cas-gwent.

Sut arwyddion sydd ar y llwybr?

Dangosir Llwybr Dyffryn Gwy gyda disgiau ‘eog yn llamu’ a hefyd saethau melyn crwn ar y ddaear sy'n dangos i chi pa ffordd i gerdded. Mae'r saethau'n dangos y ffordd i chi yn y ddau gyfeiriad ac maen nhw wedi eu gosod ar arwyddbyst, clwydi neu gamfeydd fel arfer. Maen nhw'n cael eu hadnewyddu a'u diweddaru drwy'r amser ond, os oes arwyddion ar goll neu os ydynt yn ddryslyd, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r ‘cyfleuster Hysbysu am Broblem’ yma.

Mae gan y DU rwydwaith unigryw o lwybrau y gall y cyhoedd eu defnyddio – y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, sydd wedi eu marcio ar fapiau Arolwg Ordnans (OS). Ar hyd Llwybr Dyffryn Gwy byddwch yn gweld arwyddion dangos y ffordd eraill sy'n dangos i chi lle mae'r hawliau tramwy eraill yma, a gallwch ddefnyddio'r rhain i ddarganfod lleoedd i fwyta ac yfed, mannau aros dros nos a lleoedd o ddiddordeb yn agos at brif daith Llwybr Dyffryn Gwy. Mae cyfran fwyaf Llwybr Dyffryn Gwy'n dilyn Hawliau Tramwy Cyhoeddus swyddogol, sy'n rhoi hawl i gerddwyr eu defnyddio, ond nid yw'n caniatáu iddynt grwydro oddi ar y llwybr ei hun. Mae rhannau â chaniatâd o'r llwybr hefyd lle mae perchnogion wedi cytuno bod pobl yn cael eu defnyddio. Ers i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 gael ei phasio, mae ‘hawl i grwydro’ newydd mewn ardaloedd wedi eu mapio o ‘dir agored’. Ystyr ‘tir agored’ yw mynyddoedd, gweundiroedd, rhostiroedd, iseldiroedd a thiroedd comin cofrestredig, ac mae hyn yn cynnwys rhan fawr o Bumlumon.

Pa ffordd ddylwn i gerdded?

Gallwch gerdded yn y naill gyfeiriad neu'r llall. Mae arwyddion i ddangos y ffordd ar y llwybr felly gallwch ddechrau wrth y tarddle a cherdded at y môr, neu gallwch ddechrau wrth y môr a cherdded at y tarddle. Mae llawer o bobl yn dewis cerdded o'r tarddle at y môr, am ei fod yn teimlo'n ‘gywir’ i orffen wrth y môr. Mae manteision mwy ymarferol i orffen y daith yng Nghas-gwent lle gallwch ddathlu eich llwyddiant mewn tafarn neu fwyty lleol a dal bws neu drên adref o'r orsaf.

Yn hanesyddol, datblygodd y llwybr fel taith gerdded fer o Gas-gwent tua'r gogledd i Drefynwy, ond dros 40 blynedd cafodd y daith gerdded ei hymestyn i'r gogledd, a'r darn terfynol i Ryd-y-benwch ar Bumlumon a gwblhawyd yn fwyaf diweddar. Dyma pam mae'r cyfarwyddiadau yn y tywyslyfr swyddogol ar hyn o bryd yn rhedeg o'r môr i'r tarddle, ond am fod arwyddion dangos y ffordd ar y daith, mae'n gweithio'r ddwy ffordd. Does dim ffordd sy'n fwy cywir na'r llall!

Ymhle allwn i brynu tywyslyfr swyddogol am Lwybr Dyffryn Gwy?

Mae tywyslyfr swyddogol ar gael gan Cicerone, sydd wedi bod yn cyhoeddi llyfrau arweiniad am fwy na 50 mlynedd. Mae'r tywyslyfr defnyddiol maint poced hwn yn cynnwys disgrifiad o'r daith, gwybodaeth am fannau o ddiddordeb ar hyd y ffordd a'r mapiau Arolwg Ordnans sy'n ymdrin â rhannau'r daith. Paratoir y tywyslyfr gan Bartneriaeth Llwybr Dyffryn Gwy, sy'n gweithio i wella a gofalu am harddwch naturiol Dyffryn Gwy i genedlaethau'r dyfodol. Mae ar gael fel llyfr mewn print, fel eLyfr neu fel bwndel o'r ddau, yn y fan yma

Ydw i angen map?

Er bod arwyddion ar hyd y llwybr, dylech gario map hefyd. Mae tywyslyfr Cicerone yn cynnwys yr holl ddarnau o'r map Arolwg Ordnans (OS) sy'n dangos y llwybr. Os byddai'n well gennych y map cyfan byddwch angen mapiau ‘Ordnance Survey Explorer’ Arolwg Ordnans (OS) ar raddfa o 1:25,000 – mae'r manylion isod. Gallwch hefyd lawrlwytho'r ap OS sy'n gadael i chi weld yn union lle'r ydych ar y map!

Explorer 214 - Llanidloes a'r Drenewydd

Explorer 200 - Llandrindod Wells and Elan Valley

Explorer 188 - Llanfair-ym-Muallt

Explorer OL13 Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Y Dwyrain)

Explorer 201 - Knighton Presteigne

Explorer 202 Leominster & Bromyard

Explorer 189 - Henffordd a Ross-on-Wye

Explorer OL14 - Wye Valley and Forest of Dean

Pryd yw'r amser gorau i gerdded?

Gallwch gerdded unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond efallai y bydd rhai rhannau o'r llwybr dan ddŵr/yn lleidiog/yn llithrig ar ôl glaw trwm, yn enwedig yn y gaeaf. Mae diwrnodau rhewllyd y gaeaf yn dod â golygfeydd hyfryd am fod y coed wedi colli eu dail. Mae Dyffryn Gwy yn ei flodau ym misoedd Ebrill a Mai pan mae clychau'r gog, blodau'r gwynt a garlleg gwyllt yn blodeuo ac mae coed yn lledu eu dail gwyrdd golau. Gyda'r haf daw'r dolydd blodau gwyllt traddodiadol prydferth ac, yn hwyr yn yr haf, mae tes porffor o rug ar gopaon nifer o'r bryniau. Mae lliwiau'r hydref yng nghoedwigoedd hynafol yr Afon Gwy isaf, islaw Symonds Yat, yn ysblennydd ac yn ysgogiad i gerdded yn ystod y diwrnodau byrrach ar ddiwedd y flwyddyn.

Edrychwch ar ragolygon y tywydd ar www.metoffice.gov.uk cyn i chi ddechrau eich taith pob dydd, fel eich bod yn barod ac wedi'ch gwisgo'n addas. Gall rhai rhannau o'r llwybr fod yn agored iawn i wyntoedd cryfion, heb fawr loches rhag y gwynt, y glaw a'r haul. Mae'r Afon Gwy'n gorlifo ar brydiau yn dilyn cyfnodau estynedig o law, a hynny fel arfer yn ystod yr hydref hwyr, y gaeaf a'r gwanwyn cynnar.

Ble mae'r gorsafoedd trenau agosaf?

Mae gorsafoedd trenau yn Ffordd Llanfair-ym-Muallt (i'r gogledd o'r dref), Henffordd a Chas-gwent.

Pa mor bell mae'r afon yn mynd i lawr o'i tharddle i'r môr?

Mae'r afon yn mynd i lawr 2,230 o droedfeddi (680 metr) o'i tharddle i'r môr.

Beth yw'r pwynt uchaf ar y llwybr?

Gerllaw Bryn Nantyhendy, 1,575 o droedfeddi (480 metr) yn Rhan 2, a Bryn Merbach, 1,043 o droedfeddi (318 metr) yn Rhan 8.

Pa drefi sydd â gwasanaeth bysiau?

Mae bysiau'n gwasanaethu'r mwyafrif o'r trefi a'r pentrefi, yn cynnwys Llanidloes, Llangurig, Rhaeadr Gwy, Y Gelli Gandryll, Henffordd, Rhosan ar Wy, Trefynwy, Tyndyrn a Chas-gwent.

A oes unrhyw wasanaethau trosglwyddo bagiau?

Oes, mae manylion am opsiynau trosglwyddo bagiau a thacsis yma

Ydw i angen pasbort?

Er bod y daith gerdded yn cris-croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, nid oes angen pasbort arnoch – ond gallwch gasglu stampiau ar eich pasbort Llwybr Dyffryn Gwy ar hyd y ffordd i ddangos lle'r ydych arni ac i hawlio eich tystysgrif a'ch bathodyn Llwybr Dyffryn Gwy. Canfod rhagor am basbort Llwybr Dyffryn Gwy yma.

Sut ydw i'n cyrraedd dechrau/diwedd y Llwybr ym maes parcio Rhyd-y-benwch?

Mae'r daith gerdded yn dechrau (neu'n diweddu) yn lleoliad anghysbell Rhyd-y-benwch lle does dim gwasanaeth bysiau. Dyma'r tri opsiwn sydd ar gael i chi:

- Defnyddiwch Lwybr Hafren i gerdded yr 8 milltir (12.9 km) o Lanidloes, neu i Lanidloes, lle mae gwasanaeth bysiau da, yn cynnwys bysiau i'r orsaf drenau agosaf yn y Drenewydd.

- Os byddwch yn gorffen y daith gerdded ym maes parcio Rhyd-y-benwch, gallwch fynd yn ôl y ffordd y daethoch i Langurig (12 milltir / 19.3 km) sydd ar un o brif deithiau'r bysiau.

- Defnyddiwch wasanaeth tacsi (neu gyfaill) i'ch cymryd i (neu i'ch casglu o) faes parcio Rhyd-y-benwch.

A gaf i seiclo ar hyd Llwybr Dyffryn Gwy?

Dim ond ar rai darnau o'r daith gerdded sy'n llwybrau ceffyl y cewch seiclo. Mae'r rhan fwyaf o'r daith gerdded ar lwybrau cerdded cyhoeddus, lle na cheir mynd â beiciau a cheffylau heblaw bod y perchennog tir yn rhoi caniatâd.

Beth sydd angen i mi ei gymryd gyda mi?

Esgidiau cerdded cryf sy'n gwrthsefyll dŵr

Dillad a gwarbac sy'n gwrthsefyll dŵr

Bwyd, ond yn enwedig diodydd

Ffôn symudol a mapiau

Amddiffyniad rhag yr haul

Tywyslyfr Cicerone neu fapiau Arolwg Ordnans (OS). Dysgwch ddarllen map, mewn argyfwng efallai y byddwch angen rhoi cyfeirnod grid eich lleoliad i rywun. Mae what3words yn ap defnyddiol i'w lawrlwytho os bydd argyfwng hefyd: https://what3words.com/

Edrychwch ar ragolygon y tywydd fel eich bod yn barod ac wedi gwisgo dillad addas: www.metoffice.gov.uk

Ga i gerdded gyda fy nghi?

Os ydych yn cerdded gyda chi, cofiwch y dylai ddilyn llinell y llwybr a pheidio cael crwydro. Mae'n drosedd i adael i gi ymosod, aflonyddu neu redeg ar ôl da byw, felly y peth gorau i'w wneud yw ei gadw ar dennyn wrth fynd drwy gaeau defaid neu wartheg neu wrth agosáu at fuarth fferm. Byddwch yn gweld da byw, yn cynnwys defaid, gwartheg a cheffylau ar lawer darn o Lwybr Dyffryn Gwy wrth iddo groesi tir amaethyddol. Cofiwch y pethau cywir ac anghywir hyn:

Cofiwch – symud yn ddistaw ac yn dawel, cadwch eich ci ar dennyn byr, a cheisiwch gerdded o amgylch y da byw, yn hytrach na thrwy ganol praidd, hyd yn oed os yw hynny'n golygu mynd oddi ar linell y llwybr.

Cofiwch – adael y gatiau fel yr oeddent pan ddaethoch atynt.

Peidiwch – â dal eich gafael ar eich ci os cewch eich bygwth gan dda byw (gwartheg fel arfer). Gadewch iddo fynd.

Peidiwch - â mynd rhwng buwch a'i llo.

Peidiwch – â mynd i banig. Bydd y rhan fwyaf o wartheg a cheffylau'n stopio cyn iddynt eich cyrraedd chi. Os byddan nhw'n eich dilyn chi am eu bod yn chwilfrydig, fel y gwnânt yn aml iawn, cerddwch ymlaen yn dawel.

Ni fydd pob camfa'n addas i gŵn eu defnyddio

Sut ddylwn i baratoi ar gyfer y daith hon

Nid yw'r rhan fwyaf o Lwybr Dyffryn Gwy'n anodd nac yn heriol, ond mae rhai darnau creigiog serth, llethrau lleidiog a darnau o ucheldir yn y mynyddoedd sy'n agored i'r elfennau, yn ogystal â llwybrau tonnog ger afonydd ac yng nghefn gwlad. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi a bod gennych y cyfarpar cywir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw lefel eich ffitrwydd a chynlluniwch daith gerdded sy'n addas i chi. Os byddwch yn cerdded ar eich pen eich hun gadewch i rywun wybod i ble rydych yn mynd a phryd rydych yn disgwyl cyrraedd eich cyrchnod. Mae rhannau o Lwybr Dyffryn Gwy sydd heb dderbyniad da i ffonau symudol.

A oes unrhyw rannau hygyrch?

Mae rhannau y gall pobl sydd â llai o symudedd eu mwynhau ac mae teithiau cerdded heb rwystrau sy'n addas i bobl sy'n gwthio bygis, pobl mewn cadeiriau olwyn a phobl sy'n methu cerdded yn bell. Gwelwch : Teithiau Cerdded Cylchol a Hygyrch

Cynllunio Eich Antur

Passport StampBoots Illustration

Pasbort Llwybr 
Dyffryn Gwy

Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…

Creu pasbort