Hidlo'r map
This beautiful section of the walk crosses the uplands of Mid Wales before descending into Rhayader. It includes sections of high level walking in open countryside, taking in one of the highest points on the route at 1568ft, from where on a clear day there are stunning views to Plynlimon.
Mae'r llwybr yn mynd drwy Warchodfa Natur Gilfach, gan ddilyn yr Afon Marteg hyfryd wrth iddi gwympo'n bendramwnwgl i mewn i'r Afon Gwy, ac yn pasio'r tŷ hir Cymreig traddodiadol yng nghanol y Warchodfa, gyda'i Ganolfan Ddarganfod gynnil. I gymryd llwybr is ei lefel, gallwch ddewis y daith ar hyd lôn dawel ar lan orllewinol yr Afon Gwy rhwng Llangurig a Rhaeadr Gwy.
Roedd Gilfach, sy'n ganrifoedd oed, yn fferm fynyddig ar un adeg ond mae bellach yn Warchodfa Natur ysblennydd sydd â statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) lle mae'r Afon Marteg yn cwympo'n hyfryd dros greigiau i ymuno â'r Afon Gwy. Mae Gilfach yn adnabyddus am yr amrywiaeth wych o fywyd gwyllt, o wybedogion a throchwyr i ddyfrgwn, ffwlbartiaid ac eogiaid, yn ogystal â mwy na 413 o wahanol fathau o gennau! Mae grug ac eithin yn dod â ffrwydrad o liw i lethrau uwch y bryniau yn wythnosau hwyr yr haf gan ddenu pryfaid fel cacwn y mynydd a gwyfynod y cadno.
Roedd teuluoedd a'u hanifeiliaid yn cyd-fyw o dan yr un to mewn tai hir Cymreig. Byddai'r teulu'n byw yn y rhan o'r adeilad oedd ar yr ochr uchaf i fyny'r bryn, a byddai eu gwartheg a'u ceffylau mewn corau ar yr ochr isaf, fel bod y tail yn draenio i lawr yr allt. (Roedd hwn ar y dde yng Nghilfach). Yn aml iawn byddai'r gweision yn cysgu yn y daflod wair uwch ben yr anifeiliaid, gan fanteisio ar y gwres fyddai'n codi oddi arnynt yn y gaeaf. Mae'r Gilfach yn dyddio o tua'r flwyddyn 1550.
Mae Llwybr y Mynaich yn llwybr canoloesol 25 milltir o hyd dros Fynyddoedd Cambria, sy'n cysylltu dwy fynachlog Sistersaidd a sefydlwyd ar ddiwedd y 12fed ganrif, Ystrad Fflur (Strata Florida) ac Abaty Cwmhir. Gallwch ddilyn Llwybr y Mynaich drwy Warchodfa Natur Gilfach, lle mae'n croesi'r Afon Gwy ym Mhont Marteg ac yn dringo i fyny at gopa'r mynydd. Mae'n un o'r ffyrdd canoloesol cadwedig gorau ym Mhrydain.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort