Hidlo'r map
O Fownhope mae'r llwybr yn gymysgedd o goetir a ffermdir, yn pasio drwy Goed Lea a Paget (SoDdGA), sydd â rhai o'r coetiroedd dail llydan gorau yn AHNE Dyffryn Gwy. Yna mae'r daith gerdded yn croesi ffermdir i ymuno â'r Afon Gwy yn How Caple. Dilynir darn 1.7 milltir (3 km) o lôn darmac gul at y lle sydd â'r enw hyfryd ‘Hole in the Wall’, gan barhau heibio i bont grog Foy (sy'n gadael i chi fynd yn rhwydd at Eglwys ddel y Santes Fair).
Yn fuan ar ôl y bont, ymunwch â'r llwybr eithaf gwastad sy'n arwain yr holl ffordd i Rosan ar Wy, gan ddilyn darn byr o'r hen drac rheilffordd yn nes ymlaen. Yn yr haf, chwiliwch am wenoliaid y glennydd yn nythu ar y lan gyferbyn yng Nghomin Backney. Mae'r llwybr yn parhau heibio i Glwb Rhwyfo Rhosan ar Wy i gyrraedd Tafarn yr Hope & Anchor. Nodwch, gall y ffermdir rhwng How Caple a Rhosan ar Wy fod yn lleidiog iawn mewn tywydd gwlyb.
Yn Fownhope ar fore Diwrnod y Derw-afal (Mai 29ain) torrir cangen dderw a gaiff ei haddurno gyda rhubanau coch, gwyn a glas ac mae'r pentrefwyr yn addurno ffyn â blodau. Mae'n gelfyddyd draddodiadol sydd wedi pasio i lawr drwy'r cenedlaethau, ac mae'n ffordd o baratoi ar gyfer gorymdaith yr Heart of Oak Society drwy'r pentref yng nghwmni band pres a phentrefwyr. Roedd y gymdeithas hon yn fath o Gymdeithas y Cyfeillion ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, oedd yn darparu math o yswiriant i aelodau pan oedden nhw'n mynd trwy gyfnod anodd.
Mae porfeydd calchfaen wedi dirywio'n enbyd oherwydd ffermio dwys, ond mae'r warchodfa hon i'w chael ar lethr ogleddol cefnen galchfaen lle mae pridd tenau, prin o faetholion sy'n draenio'n rhwydd yn cynhyrchu porfa ysblennydd sy'n cynnwys briallu Mair a marjoram. Dim ond ar dir sydd erioed wedi ei droi neu ei wella gyda gwrtaith a chwynladdwyr y bydd rhai o'r planhigion hyn yn tyfu. Mae gan Goed Lea a Paget (SoDdGA) gerllaw goetiroedd dail llydan cain, wedi eu carpedu â chlychau'r gog a blodau'r gwynt yn y gwanwyn.
Mae'r fryngaer hon o'r Oes Haearn yn nodwedd amlwg yn y darn o gefn gwlad sydd oddi amgylch ac mae ganddi olygfeydd eang o'r De a'r Gorllewin. Mae'n siâp hirgrwn ac mae ganddi ragfuriau dwbl ar ei hochr ddeheuol, ond dim ond un rhagfur ar ei hochr ogleddol serth. Defnyddiwyd y gwersyll hwn o tua 500 CC hyd canol neu ddiwedd yr 2il neu'r 3edd ganrif OC.
Mae'n gyflawniad gwych i gerdded y llwybr cyfan, pob milltir o'r 136. Nodwch y milltiroedd drwy gadw cofnod o'ch taith a chasglu stampiau pasbort (digidol) ar hyd y daith…
Creu pasbort